Carcharu dau ddyn wedi i deulu gael eu bygwth â chleddyf samurai
Mae dau ddyn o Abertawe wedi cael eu carcharu ar ôl i un ohonynt yrru yn beryglus a'r llall fygwth dioddefwr oedd gyda'i deulu â chleddyf samurai.
Roedd Stephen Harris, 29, o Uplands wedi gyrru Citroen Xsara Picasso ar Heol Llangyfelach, Treboeth am tua 18:20 ddydd Sul 20 Ebrill, gyda Lathan Gray, 27, o Fonymaen, yn sedd y teithiwr.
Roedd olwynion cerbyd Harris wedi bod yn troelli yn yr unfan gan ddefnyddio'r brêc llaw yng nghanol ffordd brysur.
Yna fe wnaethon nhw ddilyn cerbyd aelod o’r cyhoedd a wnaeth eu herio, a oedd gyda’i bartner a’i fab saith oed yn seddi'r teithwyr.
Unwaith i'r dioddefwr stopio yn y garej Texaco gerllaw, stopiodd Harris ei gerbyd a rhwystro'r allanfa.
Yna fe aeth Gray allan o'r cerbyd a chodi ei siwmper i ddangos carn cleddyf samurai oedd yn ei drowsus.
Roedd gan y cerbyd hefyd blât cofrestru ffug ac nid oedd ganddo yswiriant. Roedd Harris eisoes wedi’i wahardd rhag gyrru tan 2029.
Daeth swyddogion o hyd i’r cerbyd ychydig bellter i ffwrdd, ac fe wnaethon nhw hefyd ddarganfod cyllell gegin arall yn y cerbyd yn ogystal â morthwyl.
Cafodd y ddau eu cyhuddo a’u cadw yn y ddalfa cyn iddyn nhw bledio’n euog o flaen llys y bore wedyn.