'Sail resymol' i gredu bod America wedi cyflawni troseddau rhyfel yn Iran
Mae arbenigwyr hawliau dynol yn dweud bod yna “sail resymol” i gredu bod lluoedd America wedi cyflawni troseddau rhyfel mewn cyrchoedd yn Iran a wnaeth arwain at farwolaethau 177 o bobl.
Dywedodd adroddiad annibynnol wedi’i gomisiynu gan Gyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig fod America wedi cynnal ymosodiadau â taflegrau ar ysgol gynradd yn ninas Minab a chanolfan chwaraeon yn Lamerd ym mis Chwefror eleni.
Roedd yr ymosodiadau wedi arwain at farwolaethau sifiliaid a difrod i seilwaith cyhoeddus, yn ôl yr adroddiad. Daeth y genhadaeth i’r casgliad bod yr ymosodiadau’n ddiwahân ac yn gyfystyr â throseddau rhyfel.
Y gred yw bod 156 o bobl, gan gynnwys 120 o blant, wedi marw yn ystod yr ymosodiad yn Minab.
Mae lluoedd America wedi gwadu cynnal cyrch awyr ar Lamerd yn flaenorol, ac yn dweud eu bod yn ymchwilio i’r hyn a ddigwyddodd yn Minab.
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Wladwriaeth America nad oedd canfyddiadau’r adroddiad yn gredadwy.
Daeth yr arbenigwyr hefyd i’r casgliad bod awdurdodau Iran wedi cyflawni troseddau yn erbyn dynoliaeth ym mis Ionawr eleni yn ystod ymdrechion i atal protestiadau torfol yn erbyn y Llywodraeth.
Dywedon nhw fod lluoedd diogelwch y wlad wedi lladd pobl ar “raddfa syfrdanol a digynsail” ar draws pob un o 31 talaith y wlad.
Nid yw Iran wedi gwneud sylw ynglŷn â’r adroddiad, ond mae’r wlad wedi gwrthod unrhyw awgrym o achosion systematig o dorri hawliau dynol.