Newyddion S4C

Swyddogion heddlu sy'n 'methu camau gwirio cefndir i gael eu diswyddo'

Heddlu

Bydd penaethiaid heddlu yn gallu diswyddo plismyn sy'n methu gwiriadau cefndir o dan fesurau newydd y llywodraeth i fagu hyder mewn plismona.

Fe fydd mesurau yn cael eu cyflwyno yn Senedd San Steffan ddydd Mercher a fydd yn ei wneud yn ofyniad cyfreithiol i swyddogion heddlu basio gwiriad cefndir.

Bydd gan benaethiaid heddlu tan fis nesaf i ddiswyddo unrhyw swyddogion sydd ddim yn gymwys i wasanaethu.

Fe allai swyddogion fethu'r gwiriad cefndir am nifer o resymau, gan gynnwys cam-drin domestig a cham-drin rhywiol.

Daw'r newid hwn wedi i bennaeth Heddlu'r Met Syr Mark Rowley gyhuddo swyddogion o lusgo eu traed ar roi pwerau i benaethiaid heddlu ddiswyddo swyddogion sydd ddim yn addas i wasanaethu.

Ychwanegodd ei fod yn "afresymol" nad oedd modd diswyddo swyddogion oedd ddim yn pasio'r gwiriadau cefndir.

Dywedodd y Swyddfa Gartref fod y newidiadau’n dilyn heriau cyfreithiol diweddar sydd wedi dangos yr anhawster sy'n wynebu heddluoedd wrth gael gwared ar swyddogion "sydd ddim yn addas i amddiffyn y cyhoedd."

Mae'r Ysgrifennydd Cartref Yvette Cooper yn dweud bod angen y rheolau newydd hyn mewn grym.

“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae achosion difrifol sydd wedi methu’n llwyr â chyrraedd yr holl safonau plismona priodol wedi niweidio ymddiriedaeth y cyhoedd yn y swyddogion sydd i fod i’w hamddiffyn," meddai.

“Nid yw’n dderbyniol nad oes modd cael gwared ar swyddogion sy’n amlwg ddim yn addas i wasanaethu.

“Dyna pam mae’r rheolau newydd hyn yn hanfodol a dyna pam mae’r Llywodraeth hon wedi bod yn gweithio’n agos gyda heddluoedd i oresgyn y rhwystrau hyn i adfer hyder mewn plismona.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.