Dod ag ymgynghoriad ar ddyfodol 2,700 swyddi British Steel i ben
Mae British Steel wedi dweud y bydd yn dod ag ymgynghoriad ar ddyfodol hyd at 2,700 o swyddi i ben wedi i Lywodraeth y DU gymryd rheolaeth o’r cwmni yn gynharach y mis hwn.
Fis Mawrth cyflwynodd cwmni Tsieinaidd Jingye, a brynodd British Steel yn 2020, gynllun i gau dwy ffwrnais chwyth yn Scunthorpe, Sir Lincoln.
Arweiniodd hynny at gyfnod ymgynghori, a fyddai'n effeithio ar 2,000 i 2,700 o swyddi.
Mewn datganiad ddydd Mawrth dywedodd Lisa Coulson, sef prif swyddog masnachol dros dro British Steel, ei bod yn “cadarnhau ein bod yn dod â’r cyfnod o ymgynghori i ben heb weithredu ymhellach.
“Ers i’r Llywodraeth basio ei deddfwriaeth ddydd Sadwrn, rydym wedi bod yn gweithio ddydd a nos i sicrhau ein bod yn gallu sefydlogi ein gweithrediadau,” meddai.
Daw ei sylwadau ar ôl i aelodau seneddol gwrdd yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Sadwrn a phleidleisio dros achub safle British Steel yn Scunthorpe.
Dyma’r tro cyntaf ers 1982 i ASau gael eu galw nôl ar ddydd Sadwrn.
Fe gytunodd ASau i roi pwerau newydd i'r Ysgrifennydd Busnes, Jonathan Reynolds, i reoli'r gwaith dur yn Lloegr.
Bydd y pwerau yma yn caniatáu i’r llywodraeth "gymryd rheolaeth" o’r safle yn Sir Lincoln ac atal ei berchennog, cwmni Jingye o Tsieina, rhag cau'r ffwrneisi chwyth.
Bellach, mae Lisa Coulson yn dweud bod British Steel wedi llwyddo i gael gafael ar y deunydd sydd angen arnynt er mwyn sicrhau y gall ffwrnesi chwyth y Frenhines Anne a’r Frenhines Bess barhau i weithredu.
Dywedodd bod y cwmni yn ddiolchgar “i bob un o’m partneriaid” o’r undebau, yn ogystal â phawb yn y gweithlu am eu “hymrwymiad anhygoel.”
Mae’r penderfyniad i achub y safle wedi cael ei feirniadu gan rai gwleidyddion sydd wedi cwestiynu pam nad oedd yr un camau wedi eu cymryd ar gyfer safle gwaith dur Tata ym Mhort Talbot, lle mae swyddi wedi eu colli.