Newyddion S4C

Mam dyn a gafodd ei saethu gan yr heddlu yn dweud ‘dylai bawb’ wylio drama newydd

Jean Charles de Menezes

Mae mam dyn a gafodd ei saethu’n farw mewn gorsaf drên yn Llundain ar ôl iddo gael ei gamgymryd am derfysgwr yn dweud y ‘dylai bawb’ wylio’r ddrama newydd am y digwyddiad.

Fe gafodd Jean Charles de Menezes ei saethu saith o weithiau gan ddau blismon yng ngorsaf danddaearol Stockwell ar 22 Gorffennaf, 2005.

Bythefnos ar ôl y bomio 7/7 yn Llundain a laddodd 52 o bobl, cafodd de Menezes ei gamgymryd am un o’r bobl oedd yn gysylltiedig ag ymgais arall i fomio a fethodd y diwrnod cynt.

Roedd y terfysgwyr wedi targedu’r rhwydwaith drafnidiaeth ar 21 Gorffennaf, ond ni wnaeth eu dyfeisiadau ffrwydro.

Cafodd Jean Charles de Menezes, trydanwr 27 oed o Frasil, ei gamgymryd am un o’r dynion, oherwydd ei fod yn byw yn yr un bloc o fflatiau.

Ni chafodd unrhyw swyddogion eu herlyn am ei ladd, ond cafodd Heddlu'r Met ddirwy am dorri cyfreithiau iechyd a diogelwch.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r Met ar y pryd: “Mae saethu Jean Charles de Menezes yn destun gofid mawr i Wasanaeth Heddlu'r Met.”

“Mae ein meddyliau’n parhau gyda’i deulu ac rydym yn ailadrodd ein hymddiheuriad iddyn nhw.”

Image
Jean Charles de Menezes
Bydd y ddrama yn cael ei darlledu ar 30 Ebrill ar Disney+.

Bydd y ddrama newydd yn cael ei darlledu ar Disney+ ac yn archwilio’r dyddiau yn dilyn y bomio ar 7/7 ac ymchwiliadau’r heddlu a arweiniodd at farwolaeth Jean Charles de Menezes.

Cyn rhyddhau Suspect: The Shooting of Jean Charles de Menezes, dywedodd ei fam Maria de Menezes, "Yn fy marn i, rwy'n credu y dylai pawb ei gwylio."

Wrth siarad yn ystod dangosiad cynnar, dywedodd yr awdur a’r cynhyrchydd gweithredol, Jeff Pope, fod Mrs de Menezes wedi dweud iddi deimlo’n sâl am dridiau ar ôl gwylio’r rhaglen.

Dywedodd: “Rydw i wir yn credu o fod yn yr ystafell y diwrnod hwnnw gyda hi, eu bod nhw wedi bod yn aros 20 mlynedd am hyn. Dwi'n meddwl hynny'n onest. Mae wedi eu bwyta’n fyw.”

Ychwanegodd eu bod wedi treulio oriau lawer yn siarad am eu bywydau cyn mynd ymlaen i’r pethau mwy poenus.

“Mae gwersi eisoes wedi eu dysgu ond roedd angen hynny 20 mlynedd yn ôl. Roedd angen hynny ar ei deulu 20 mlynedd yn ôl,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.