Trefnu angladd y Pab: Cardinaliaid yn cwrdd am y tro cyntaf ers ei farwolaeth
Bydd cardinaliaid yn cwrdd ddydd Mawrth am y tro cyntaf ers marwolaeth y Pab er mwyn trafod y trefniadau ar gyfer ei angladd.
Cyhoeddodd y Fatican i’r Pab Ffransis farw ar fore Llun y Pasg yn 88 oed o strôc a phroblemau gyda'i galon. .
Mae'r Cardinaliaid sydd yn Rhufain ar hyn o bryd wedi'u gwahodd i gyfarfod am 8.00 (9.00 amser yr Eidal) i ddechrau cynllunio
Bydd y cardinaliaid hefyd yn penderfynu pryd y bydd corff y Pab yn cael ei symud i Fasilica Sant Pedr er mwyn caniatáu i’r cyhoedd roi teyrnged iddo cyn iddo gael ei gladdu.
Dywedodd cyfarwyddwr Swyddfa'r Wasg y Fatican, Matteo Bruni, y gallai hynny ddigwydd fore dydd Mercher.
Nos Lun, cafodd defod ei chynnal yn y Basilica yn datgan y farwolaeth yn swyddogol a chafodd gwasanaeth gweddi cyhoeddus ei gynnal am 19.30.
Bydd y Pab nesaf yn cael ei ddewis gan Goleg y Cardinaliaid, sef uwch swyddogion yr Eglwys Gatholig, ond nid fydd hynny'n digwydd am 15 diwrnod arall.
Ar hyn o bryd, mae 252 o gardinaliaid, ac mae 135 ohonyn nhw yn gymwys i bleidleisio dros y Pab newydd.
Does dim hawl gan y rhai sydd dros 80 oed i gymryd rhan yn y bleidlais, ond mae modd iddyn nhw ymuno â'r drafodaeth i ddewis y Pab nesaf.
Galaru
Naw niwrnod yw'r cyfnod swyddogol o alaru, wedi'r cyhoeddiad gan y Fatican.
Yn yr Ariannin, sef gwlad enedigol y Pab, mae saith niwrnod o alaru wedi ei gyhoeddi.
Ffransis oedd y Pab cyntaf o Dde America.
Bydd wythnos gyfan o alaru ym Mrasil, tra bod tridiau wedi eu cyhoeddi yn Sbaen.
Yn Awstria, cafodd clychau eu canu mewn eglwysi ar hyd a lled y wlad am 17.00 nos Lun, cyn i offeren gael ei chynnal yng Nghadeirlan San Steffan yn Fienna nos Lun.
Yn Lloegr a'r Alban, mae baneri'r undeb wedi eu gostwng i hanner mast mewn adeiladau brenhinol.
Yn Ffrainc, canodd clychau Cadeirlan Notre Dame ym Mharis 88 o weithiau brynhawn Llun.