'Calon i'r gymuned': Grant i adnewyddu neuadd gymunedol yng Ngwynedd
Mae menter gymunedol wedi cael grant i adnewyddu neuadd mewn pentref yng Ngwynedd.
Mae Neuadd Trawsfynydd wedi derbyn grant o £122,337 gan y Loteri Genedlaethol i adnewyddu'r adeilad.
Mae'r neuadd, sy'n cynnal digwyddiadau fel partïon pen-blwydd, wedi bod yn eiddo i'r gymuned ers degawdau.
Ond mae aelodau o bwyllgor y neuadd wedi dweud bod angen adnewyddu'r adeilad er mwyn sicrhau ei dyfodol.
Nid yw'r neuadd wedi cael ei hadnewyddu ers y 1990au.
'Creu calon i'r gymuned'
Bwriad prosiect 'Neuadd i'r Dyfodol' yw "trawsnewid y neuadd yn ofod modern a phwrpasol i'r gymuned" meddai'r pwyllgor.
Mae’r gwaith eisoes ar y gweill, ac mae’r pwyllgor yn bwriadu adnewyddu’r seler i greu cegin newydd, gwella’r brif neuadd a chreu lle i bobl ifanc gyfarfod.
Maen nhw hefyd yn bwriadu gosod system wresogi werdd ac eco-gyfeillgar.
Dywedodd Rhian Thomas, aelod o’r pwyllgor: "Mae’r Gymraeg yn greiddiol i’r hyn rydym yn ei wneud, ond rydym am fod yn hygyrch i bawb.
"Mae’n bwysig cael cefnogaeth gan bobl sydd ddim yn siarad Cymraeg, hefyd."
Ychwanegodd: "Ein dyhead yw creu calon i’r gymuned am flynyddoedd i ddod."