Newyddion S4C

Rygbi Caerdydd a'r Scarlets yn fuddugol ar Ddydd y Farn

Comp Scarlets a Rygbi Caerdydd

Rygbi Caerdydd a'r Scarlets oedd yn fuddugol yn Stadiwm Principality brynhawn dydd Sadwrn, gyda chlwb y brifddinas yn curo'r Gweilch 19-36, a'r Scarlets yn curo'r Dreigiau o 23-31.

Roedd buddugoliaeth Rygbi Caerdydd yn chwa o awyr iach a newyddion da i'w cefnogwyr ar ddiwedd mis cythryblus pan gafodd y clwb ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr dros dro, gydag Undeb Rygbi Cymru'n gafael yn yr awenau.

I'r asgellwr Gabriel Hamer-Webb oedd y diolch am y fuddugoliaeth, ag yntau'n sgorio tri chais i'w glwb. Fe ychwanegodd Alex Mann ddau gais ac fe gafwyd cais cosb hefyd i ychwanegu at y sgôr i Gaerdydd.

Ac er i'r Gweilch frwydro'n ôl ar y diwedd, fe lwyddodd Caerdydd i atal y pwysau cynyddol gan eu gwrthwynebwyr.

Llwyddodd canolwr y Gweilch Keiran Williams i sgorio cais yn yr hanner cyntaf, cyn i Will Spencer Kieran Hardy hawlio dau gais arall - gan arwain at ddiweddglo cyffrous yn y brifddinas.

Tri phwynt oedd y bwlch gyda thri munud i fynd, ond fe lwyddodd Caerdydd i ymestyn eu mantais gan sicrhau buddugoliaeth a sicrhau bod y clwb yn y chweched safle yn y gynghrair.

Yn ail gêm y prynhawn rhwng y Dreigiau a'r Scarlets roedd digon o gyffro i'r cefnogwyr oedd wedi teithio i lawr yr M4.

Y Scarlets oedd y cyntaf i gael cais - gyda Henry Thomas yn croesi'r llinell gais i'r ymwelwyr o'r gorllewin.

Yn fe darodd y Dreigiau'n ôl - gyda Jared Rosser yn hawlio'r pwyntau.

Wedi'r hanner fe wnaeth y Dreigiau gynyddu'r fantais gyda dau gais arall - yr asgellwr Ashton Hewitt a Rosser unwaith eto'n golygu fod y Dreigiau ar y blaen.

Ond trodd y pendil yn ôl i gyfeiriad y Scarlets yn hwyrach yn y gêm - gyda thri chais yn dod i'r crysau cochion gan Alec Hepburn, Vaea Fifita a Blair Murray. 

Llwyddodd Ioan Lloyd i selio'r fuddugoliaeth yn yr eiliadau olaf gyda chic gosb.

Y sgôr terfynol: Y Dreigiau 23-31 Scarlets.

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.