Dod o hyd i ddau yn eu harddegau o Geredigion oedd ar goll
Mae bachgen a merch 16 oed sydd wedi bod ar goll o ardal Aberteifi yng Ngheredigion ers wythnos wedi cael eu darganfod yn ddiogel, meddai'r heddlu.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys ddydd Iau bod Isabelle a Daniel wedi cael eu darganfod ac eu bod yn iach a diogel.
Roedd y ddau wedi bod ar goll ers dros wythnos.
Ddydd Llun dywedodd yr heddlu bod eu teuluoedd yn pryderu amdanynt wedi iddyn nhw fethu â chysylltu ers wythnos.
Yn ystod y cyfnod yr oedden nhw ar goll, cafodd y ddau eu gweld ar Ffordd Alexandra yn Aberystwyth am 12:30 ddydd Gwener 11 Ebrill.
Y gred oedd eu bod nhw wedi dal y bws T1 wnaeth adael y dref am 12:36 y diwrnod hwnnw.
Roedden nhw hefyd wedi eu gweld yn Llandudno am 20:20 ddydd Iau diwethaf ac wedi gofyn am gyfarwyddiadau i ardal Dolgellau, meddai Heddlu Dyfed-Powys.
Y gred ar y pryd oedd eu bod nhw wedi mynd ag offer gwersylla gyda nhw a fod ganddyn nhw gysylltiadau yng ngogledd Cymru a hefyd Glannau Mersi a Sir Gaerloyw yn Lloegr.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi diolch i'r cyhoedd am rannu eu hapêl i ddod o hyd i Isabelle a Daniel.