Newyddion S4C

Arestio dau wedi diflaniad menyw yng Nghaerdydd

16/04/2025
Paria Veisi

Mae dau o bobl wedi eu harestio yn dilyn diflaniad menyw 37 oed o ardal Cathays yng Nghaerdydd.

Nid yw Paria Veisi wedi cael ei gweld ers tua 15:00 ar ddydd Sadwrn, 12 Ebrill pan adawodd ei gwaith yn Nhreganna. 

Cafodd yr awdurdodau wybod ei bod ar goll y diwrnod canlynol.

Mae dyn 41 oed a dynes 48 oed wedi’u harestio mewn cysylltiad â’i diflaniad ac maen nhw yn y ddalfa.

Yn ôl Heddlu De Cymru mae ei diflaniad yn gwbl groes i'w chymeriad ac mae swyddogion yn poeni am ei lles.

Mae gan Paria Veisi wallt hir, cyrliog, du, ac roedd yn gwisgo top du ar ben un coch, trowsus du, ac esgidiau rhedeg pan welwyd hi ddiwethaf. 

Roedd hi'n cario bag llaw bach.

Mae lluniau teledu cylch cyfyng yn cadarnhau bod Paria wedi gadael ardal Treganna ar ddydd Sadwrn, 12 Ebrill, yn ei Mercedes GLC 220 du. 

Cafwyd hyd i'r car ar nos Fawrth 15 Ebrill 15 yn Heol Dorchester, Pen-y-lan.

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth am ei diflaniad ac mae modd cyflwyno unrhyw luniau neu fideo perthnasol o ffonau symudol, camerâu teledu cylch cyfyng, clychau drws neu gamerâu dash yma.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.