Newyddion S4C

Marwolaeth Tonysguboriau: Seithfed person yn ymddangos yn y llys

Joanne Penney
Joanne Penney

Mae seithfed person wedi ymddangos yn y llys mewn cysylltiad â marwolaeth menyw 40 oed yn Rhondda Cynon Taf fis diwethaf.

Bu farw Joanne Penney yn Nhonysguboriau ar 9 Mawrth ar ôl cael ei saethu.

Mae Sai Raj Manne, 25 oed, wedi ei gyhuddo o gymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp troseddol sydd wedi’i gysylltu gyda’r digwyddiad.

Fe wnaeth Manne ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher dros gyswllt fideo o garchar HMP Hewell yn Sir Worcester.

Ni chafodd unrhyw ble ei roi.

Fe gafodd cais yr erlyniad i uno’r achos gydag achos y chwech o bobl eraill sydd wedi eu cyhuddo ei dderbyn.

Fe fydd Manne yn ymuno â nhw ar 7 Gorffennaf ar gyfer gwrandawiad cyn dechrau’r achos.

Mae’n parhau yn y ddalfa.

Mae dyddiad ar gyfer yr achos llawn wedi’i osod ar gyfer 20 Hydref.

Mae pump o bobl wedi’u cyhuddo o lofruddiaeth ac un person wedi ei gyhuddo o gnorthwyo troseddwr.

Mae Marcus Huntley, 20, o Laneirwg, Caerdydd; Melissa Quailey-Dashper, 39, o Gaerlŷr; Joshua Gordon, 27, o Oadby, Sir Gaerlŷr; a Tony Porter, 68, o Braunstone Town, Sir Gaerlŷr, i gyd wedi'u cyhuddo'n flaenorol o lofruddiaeth.

Mae Mr Porter hefyd wedi’i gyhuddo o gymryd rhan yng ngweithgareddau grŵp troseddol.

Mae Kristina Ginova, 21, o Oadby, Sir Gaerlŷr, wedi’i chyhuddo o gynorthwyo troseddwr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.