
'Cynnydd sylweddol mewn galwadau brys' yn ôl criw achub mynydd
Mae un o dimau achub mynydd y gogledd yn dweud eu bod wedi gweld cynnydd sylweddol mewn galwadau brys yn ddiweddar.
Yn ôl Tîm Aberglaslyn, sy'n gofalu am rannau o Eryri a Phen Llŷn, maen nhw’n gorfod delio â 60-70 o ddigwyddiadau’r flwyddyn.
A hithau’n gyfnod gwyliau’r Pasg, maen nhw’n annog cerddwyr i baratoi cyn mentro i gerdded.
Dywedodd Dion Jones, 56, sy'n aelod o’r tîm: "Mae’r galwadau wedi cynyddu does na’m dwywaith.
"Pan o'n i’n dechra tua 30 mlynedd yn ôl, mi o'ddan ni’n cael tua 10 galwad y flwyddyn.
"’Da ni fyny i 60-70 y flwyddyn rŵan."
Mae’r cynnydd mewn galwadau yn adlewyrchu nifer yr ymwelwyr sy’n dod i’r ardal, yn ôl Dion.
"Mae o’n syml – mae ’na fwy o bobol yn dod yma," meddai.
"Mae Eryri yn un o’r ardaloedd prysura' ym Mhrydain.
"Mae’r byd yn llai dydi."
Mae gan y tîm dros 30 o wirfoddolwyr ac maent yn darparu gwasanaeth chwilio ac achub nid yn unig ar y mynyddoedd, ond hefyd mewn ardaloedd trefol a gwledig ar draws gogledd-orllewin Cymru.
'Damweiniau yn mynd i ddigwydd'
Mae Dion yn cydlynu’r galwadau brys ac yn cydnabod y gall damweiniau ddigwydd i unrhyw un, ar unrhyw adeg.
"Mae pobol yn mynd i ddisgyn, mae pobol yn mynd i frifo," meddai.
"Mae o’ n digwydd, does 'na ddim bai arnyn nhw.
"Ond, ma’ ’na gynydd wedi bod lle ti’n gweld pobol sydd ddim wedi paratoi, ac ella ddim yn meddwl mynd â’r offer iawn efo nhw, a ddim yn g’neud yn siwr eu bod nhw’n gwbod be ma nhw’n neud cyn mynd."
Er bod hysbysiadau diogelwch mynydd rheolaidd yn cael eu cyhoeddi, nid yw Dion yn credu bod y negeseuon yn cyrraedd pawb.
"Dwi’n meddwl fod rhaid chwilio lle ma’r bobol (ymwelwyr) yn dod, ac ella rhoi y negeseuon yn yr ardaloedd yna fwy nag ardaloedd lleol yn fama," meddai.
Yn ôl Dion, mae 'na drefn amlwg i’r cynnydd mewn galwadau.
"Ma’r patrwm yn dilyn amser gwyliau," meddai.
"Ac mae hynna achos fod 'na fwy o bobol yn dod yma.
"Ac os oes yna fwy o bobol yn dod yma, mae 'na jans go lew fod damweiniau yn mynd i ddigwydd."
Mae Dion yn dweud fod natur y swydd wedi newid dros y blynyddoedd.
"’Da ni’n gweitho efo gwasnaethau brys erill mewn tywydd garw, eira, fflydio. ’Da ni’n neud gymaint mwy na mynyddoedd," meddai.
Mae'r gwasanaethau yma yn dibynnu'n llwyr ar haelioni ac amser gwirfoddolwyr.
A chyda'r cynnydd mewn galwadau daw mwy o bwysau ar adnoddau.
Yn ôl Dave Evans, swyddog hyfforddi tîm Aberglaslyn, mae'r cyfryngau cymdeithasol yn rhan o'r broblem.
"Mae bob dim ar YouTube rŵan ac wedyn mae pobl yn sbio ar hwnna ac yn deud, 'dwi isio neud hwnna fory a dydyn nhw ddim yn prepario i neud o.
"Adeg yna mae anafiadau'n digwydd, ac mae'n mynd i ddigwydd."

Mae gan Dion gyngor i bawb: "Isio pobol fynd efo’r offer iawn, a gwybod sut i ddefnyddio’r offer.
"Pan ma’ nhw’n mynd allan ma isio g’neud yn siwr fod ganddyn nhw ddigon o ola dydd, cychwyn mewn amser da.
"Dillad iawn, bwyd, diod, torch efo batri sbâr, map, cwmpawd – a hefyd gwbod sut ma’ defnyddio nhw. Ma’ hynny yn bwysig!
"Mae’r mynydd yno fory, os ’di’r tywydd ddim yn grêt, a dydi’r profiad ddim geno nhw, ma isio nhw bo ddisgwyl tan fod nhw’n fwy hyderus i fynd."
Ychwanegodd: "Cyrraedd y top ydi hanner y ffordd, mae’n rhaid dod yn ôl i lawr. Hwnna sydd bwysica – dod yn ôl i lawr mewn un pishyn."