Y Fatican yn rhoi ‘pensaer Duw’ ar y cam cyntaf i fod yn sant
Mae’r Pab Ffransis wedi cydnabod “rhinweddau arwrol” y pensaer Antoni Gaudí yng ngham cyntaf y broses o ddod yn sant.
Dywedodd y Fatican ddydd Llun fod Antoni Gaudí, ‘pensaer Duw’, a greodd basilica’r Sagrada Família yn Barcelona, wedi cael ei roi ar y llwybr i fod yn sant.
Dywedodd mewn datganiad fod y Pab Ffransis wedi cydnabod “rhinweddau arwrol” Gaudí yn ystod ei apwyntiad cyntaf ar ôl wythnosau o ddioddef o niwmonia.
Mae cefnogwyr Gaudí wedi galw ar iddo gael ei enwi’n sant ers mwy na thri degawd, gan dynnu sylw at sut yr oedd ei gelfyddydau wedi annog rhai i drosi at Gatholigiaeth.
Bron i ganrif ar ôl ei farwolaeth, mae’r datganiad gan y Fatican yn un o’r camau cychwynnol yn y broses hir a chymhleth tuag at ddod yn sant.
“Nid oes unrhyw rwystrau difrifol,” meddai’r pensaer a chyn-lywydd Cymdeithas Gwynfydiad Gaudí, José Manuel Almuzara yn 2003.
Disgrifiodd y gymdeithas fel mudiad o 80,000 o bobl ledled y byd a weddïodd ar Gaudí, gan erfyn arno i gyflawni gwyrthiau.
Dechreuodd yr eglwys ystyried y cais yn gynnar yn y 2000au.
Dechreuwyd adeiladu’r Sagrada Família ym 1882, a dros 140 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae’n parhau i fod yr eglwys Gatholig Rufeinig anorffenedig fwyaf yn y byd.
Cysegrodd y Pab Bened XVI yr adeilad yn ôl yn 2010, pan ganmolodd yr “athrylith” Antoni Gaudí am “drawsnewid yr eglwys hon yn foliant i Dduw wedi’i gwneud o garreg”.
Flynyddoedd yn ddiweddarach, daeth cyhoeddiad y bydd yn cael ei orffen yn 2026, ganrif ers marwolaeth Gaudí.
Ond cafodd y dyddiad ei ohirio ar ôl y pandemig oherwydd bod rhaid atal yr adeiladu a bod gostyngiad yn yr arian oedd yn dod gan dwristiaid.