Ewrop: 'Y cyfandir sy'n cynhesu gyflymaf yn y byd'
Ewrop ydy'r cyfandir sydd yn cynhesu gyflymaf yn y byd, yn ôl adroddiad newydd.
Fe wnaeth tua 100 o wyddonwyr ac arbenigwyr gyfrannu at yr adroddiad, a ddaeth i'r casgliad mai y llynedd oedd y flwyddyn boethaf ar gofnod i'r cyfandir.
Roedd stormydd a llifogydd eithafol yn Ewrop y llynedd yn ôl yr adroddiad, gyda 335 o bobl yn cael eu lladd, a'r tywydd yn effeithio ar 413,000 o bobl.
Fe gafodd yr adroddiad ei gyhoeddi gan Sefydliad Meteorolegol y Byd y Cenhedloedd Unedig a Gwasanaeth Newid Hinsawdd Copernicus.
Ychwanegodd yr adroddiad y gallai cynhesu byd eang o 1.5C arwain at 30,000 o farwolaethau blynyddol yn Ewrop yn sgil gwres eithafol.
'Effeithiau difrifol'
Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Sefydliad Meteorolegol y Byd y Cenhedloedd Unedig Celeste Saulo: "Mae'r adroddiad yma yn amlinellu mai Ewrop ydy'r cyfandir sydd yn cynhesu gyflymaf ac yn wynebu effeithiau difrifol yn sgil tywydd eithafol a newid hinsawdd."
Dangosodd ganfyddiadau'r adroddiad hefyd y tymereddau blynyddol uchaf erioed mewn bron i hanner o wledydd y cyfandir.
Ym mis Medi'r llynedd, fe wnaeth tanau ym Mhortiwgal losgi o gwmpas 110,000 o hectarau o dir mewn un wythnos, gan gynrychioli bron i chwarter o arwynebedd llosg blynyddol Ewrop.
Ychwanegodd Ms Saulo: "Mae'n rhaid i ni addasu. Mae Sefydliad Meteorolegol y Byd a'i bartneriaid felly yn cynyddu ymdrechion i gryfhau systemau rhybuddio cynnar a gwasanaethau hinsawdd i helpu'r rhai sydd yn gwneud penderfyniadau a chymdeithas yn gyffredinol i fod yn fwy gwydn."