Apêl ar ôl i ddyn 29 oed farw mewn gwrthdrawiad yng Nghasnewydd
14/04/2025
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn 29 oed farw mewn gwrthdrawiad ffordd yng Nghasnewydd.
Cafodd Heddlu Gwent eu galw i stryd Firbank Avenue tua 15:50 ddydd Iau, 10 Ebrill.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng car Mini Cooper a beic modur.
Bu farw gyrrwr y beic modur yn y fan a'r lle.
Mae'r heddlu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2500113746.