Staff mewn ysbyty cymunedol yn 'gofalu am ormod o gleifion'
Mae staff ysbyty cymunedol ger Abertawe yn gofalu am ormod o gleifion a phobl sydd angen gofal mewn lleoliad arall, yn ôl honiadau.
Mae llythyr gan staff Ysbyty Gorseinion yn honni ei bod yn amhosibl cadw digon o le rhwng gwelyau yn y ward cleifion mewnol, Ward y Gorllewin.
Roedd y llythyr yn honni nad oedd lefelau staffio nyrsys a chynorthwywyr gofal iechyd yn cael eu cyrraedd yn gyson a bod dibyniaeth ar staff asiantaeth.
Fe wnaeth rheolwyr yr ysbyty ymateb yn "amddiffynnol" pan gafodd pryderon eu codi meddai'r llythyr.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, sy’n rhedeg yr ysbyty, fod nifer y gwelyau yn yr ysbyty wedi gorfod bod yn "hyblyg" yn ystod cyfnodau prysur.
Ychwanegodd hefyd eu bod yn gwrando ar bryderon staff.
Beth yw'r pryderon?
Mae'r llythyr yn honni bod hyd at 48 o welyau yn cael eu defnyddio ar y ward, gyda staff yn darparu gofal y dylid ei ddarparu mewn ysbyty acíwt.
Mae'r llythyr hefyd yn honni fod nifer o gleifion yn disgyn ar y ward a bod 'na brinder cyflenwadau allweddol ar adegau.
Nid oedd staff ym mhrif fynedfa’r ysbyty rhwng y prynhawn a’r nos, gan arwain at ymwelwyr yn cyrraedd y tu allan i oriau ymweld meddai'r llythyr.
Fe aeth y llythyr ymlaen i honni nad oedd galwadau cyson am fesurau diogelwch gwell fel intercom wedi cael sylw.
Ychwanegodd y llythyr fod apêl yn parhau i Ysbyty Gorseinon gael ei ystyried fel cyfleuster is-aciwt neu uned feddygol i'r henoed.
Y bwriad meddai yw sicrhau lefelau staffio priodol.
'Angen cydweithio'
Dywedodd y bwrdd iechyd fod yr ysbyty yn ganolbwynt iechyd gyda chlinigau cymunedol a'r ward cleifion mewnol ar gyfer pobl hŷn.
"Mae’n rhaid i niferoedd gwelyau yng Ngorseinon, fel llawer o wardiau eraill y bwrdd iechyd, fod yn hyblyg yn ystod cyfnodau o alw mawr," meddai llefarydd.
"Mae hyn er mwyn delio â’r niferoedd ychwanegol o gleifion sydd angen gofal brys, yn enwedig dros y gaeaf ond hefyd ar adegau prysur eraill o’r flwyddyn.
"Gan fod y galw am welyau ychwanegol yn amrywio, mae angen i ni sicrhau model staffio hyblyg ar draws y bwrdd iechyd – gan gynnwys Gorseinon."
Mae'r bwrdd iechyd yn dweud fod rotâu staff wedi'u cynllunio o flaen llaw a bod pob ymdrech yn cael ei wneud i gynyddu'r niferoedd pan fo angen.
Dywedodd fod y ddesg flaen yn y brif fynedfa yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00 a 15.00.
Mae gan y ward cleifion mewnol dderbynnydd rhwng 7.30 a 15.30pm ar y dyddiau hynny meddai.
Ychwanegodd y bwrdd iechyd: "Rydym yn gwrando ar bryderon staff ac yn ceisio eu barn mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys arolwg staff dienw.
"Rydym wedi ymrwymo i drin pob aelod o staff yn deg ac yn annog cydweithwyr i weithio gyda ni wrth i'r trafodaethau barhau."