Newyddion S4C

Gwahardd ceir i wneud canol Wrecsam yn fwy 'cyfeillgar' i gerddwyr

14/04/2025
Stryd Siarl Wrecsam

Bydd traffig yn cael ei wahardd yng nghanol Wrecsam ar adegau penodol o'r dydd i wneud y ddinas yn fwy "cyfeillgar" i gerddwyr.

Daw'r newid yn dilyn misoedd o waith ar adfywio canol y ddinas sydd eisoes wedi cyflwyno ardaloedd gwyrdd.

O ddydd Llun ymlaen bydd ceir ond yn cael mynd i mewn i'r ddinas ar Stryd Efrog a hynny rhwng 06.00 a 11.30 yn unig.

Ar ôl hynny bydd y rhai sy'n torri'r gwaharddiad yn cael dirwy, gyda chamerâu yn gwylio'r ardaloedd.

Yn ôl Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio ar Gyngor Wrecsam, y Cynghorydd Nigel Williams, bydd y newid yn gadarnhaol.

"Fel unrhyw brosiect sylweddol o’r maint yma mae 'na ychydig o darfu, ond rydym bob amser wedi ceisio cadw’r tarfu i’r lleiaf posibl," meddai.

"Bydd angen i yrwyr ddeall a chadw at y rheolau newydd er mwyn cadw’r Stryd Fawr a chanol dinas Wrecsam yn lleoliad cyfeillgar i gerddwyr. 

"Gydag elfennau olaf y cynllun i fod i gael eu cyflwyno dros yr wythnosau nesaf, rwy’n edrych ymlaen at weld sut bydd y gwelliannau o fudd i’r ardal."

Pa strydoedd sy'n rhan o'r cynllun?

-Stryd Efrog

-Stryd Caer

-Stryd Charles

-Stryd Henblas

-Stryd Fawr

-Stryd Gobaith

-Stryd y Rhaglaw

-Stryd y Lambpit

-Allt y Dref

-Stryd yr Eglwys

-Stryd y Frenhines

-Sgwâr y Frenhines

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.