Newyddion S4C

Rheolwr Newcastle Eddie Howe wedi'i gludo i'r ysbyty

12/04/2025
Eddie Howe

Mae rheolwr Newcastle United, Eddie Howe, wedi’i gludo i’r ysbyty a bydd yn colli gêm y clwb yn yr Uwch Gynghrair yn erbyn Manchester United ddydd Sul.

Fe aeth Howe sy’n 47 oed i'r ysbyty yn hwyr nos Wener, ar ôl teimlo'n sâl am nifer o ddyddiau.

Dywedodd datganiad gan y clwb: “Cadwodd staff meddygol Eddie yn yr ysbyty dros nos ar gyfer profion pellach, sy’n parhau.

“Mae’n ymwybodol ac yn siarad â’i deulu, ac mae’n parhau i dderbyn gofal meddygol arbenigol.

“Mae pawb yn Newcastle United yn estyn eu dymuniadau gorau i Eddie am wellhad buan, a bydd diweddariadau pellach yn dilyn maes o law.”

Yn absenoldeb Howe fe fydd y rheolwyr cynorthwyol Jason Tindall a Graeme Jones yn arwain Newcastle ar gyfer ymweliad tîm Ruben Amorim â Pharc St James.

Llun: X/CPD Newcastle United

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.