Newyddion S4C

Cau ffordd yn Sir Gâr oherwydd tân

12/04/2025
A476 Heol Bethania, Sir Gâr

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cau ffordd yn Sir Gâr oherwydd tân.

Dywedodd y llu eu bod nhw wedi cau ffordd yr A4706 rhwng Llannon â’r Tymbl brynhawn dydd Sadwrn.

Maen nhw wedi cynghori gyrwyr i osgoi’r ardal ac wedi dweud wrh bobl leol i gau ffenstri a drysau.

Fe wnaeth y gwasanaethau brys ymateb i adroddiadau toc wedi 13:40 ddydd Sadwrn gan gau'r ffordd am rai oriau cyn agor yn ddiweddarach.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.