Dod o hyd i gorff dyn 27 oed yn Nociau’r Barri
12/04/2025
Mae corff dyn 27 oed wedi’i ddarganfod yn Nociau’r Barri, meddai'r heddlu.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod nhw’n ymchwilio i’r digwyddiad a arweiniodd at farwolaeth y dyn ddydd Gwener.
Dywedodd llefarydd ar ran y llu: “Am tua 18:00 nos Wener, Ebrill 11, fe ddaeth adroddiad am gorff dyn yn Nociau’r Barri.
“Nid yw’r dyn wedi’i adnabod yn ffurfiol eto ond y gred yw ei fod yn ddyn lleol 27 oed.
“Mae ei berthnasau agosaf wedi cael gwybod.
“Nid yw ei farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus, ac mae ymholiadau’n parhau.”