Newyddion S4C

Y Llywodraeth am gydnabod yr Eisteddfod yn swyddogol fel rhan o ‘dreftadaeth byw'r DU’

Eisteddfod Llanrwst

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y gallai’r Eisteddfod a cherfio llwyau caru gael eu cynnwys ar restr o draddodiadau sydd wedi eu diogelu fel rhan o “dreftadaeth byw'r Deyrnas Unedig”.

Mae Hogmanay yn yr Alban, rowlio caws a charnifal Notting Hill Llundain hefyd ymysg y traddodiadau a allai gael eu hychwanegu at y rhestr gwarchod.

Mae Llywodraeth y DU yn galw ar y cyhoedd i gynnig eu hawgrymiadau ar gyfer y traddodiadau sy’n adlewyrchu bywyd diwylliannol Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Dywedodd Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU bod y math o draddodiadau yr oedd ganddyn nhw mewn golwg yn cynnwys “yr Eisteddfodau, Carnifal Notting Hill Carnival, Hogmanay a dawnsio ucheldiroedd yr Alban”.

Mae hyn ar ôl i’r DU gadarnhau Confensiwn 2003 UNESCO ar gyfer Diogelu Treftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol y llynedd, sy’n ei gwneud yn ofynnol i bob aelod-wladwriaeth lunio eu rhestr eu hunain o dreftadaeth fyw.

Dywedodd y Gweinidog Treftadaeth, y Farwnes Twycross: “Mae’r DU yn gyfoethog â thraddodiadau gwych, o rolio caws yn Swydd Gaerloyw i gerddoriaeth werin a dawnsio a’r crefftau treftadaeth niferus rydyn ni’n eu hymarfer, fel gwehyddu tartan a cherfio llwyau caru Cymreig.

“Byddwn yn annog pawb i feddwl pa draddodiadau maen nhw’n eu gwerthfawrogi fel y gallwn ni barhau i’w dathlu, adrodd ein stori genedlaethol i weddill y byd a diogelu’r traddodiadau sy’n ein gwneud ni'r hyn ydyn ni.”

Dywedodd y llywodraeth eu bod nhw’n bwriadu gweithio gyda llywodraethau datganoledig Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon er mwyn creu'r rhestr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.