Chwech o bobl wedi marw wedi i hofrennydd ddisgyn i Afon Hudson
Mae chwech o bobl wedi marw wedi i hofrennydd ddisgyn i Afon Hudson yn Efrog Newydd brynhawn dydd Iau.
Bu farw teulu o dwristiaid o Sbaen, gan gynnwys dau oedolyn a thri phlentyn, yn ogystal â’r peilot, meddai'r gwasanaethau brys yno.
Cafodd pump o’r dioddefwyr eu hadnabod yn hwyr nos Iau fel Agustin Escobar, swyddog gweithredol Siemens, ei wraig, Mercè Camprubí Montal a oedd yn rheolwr byd-eang mewn cwmni technoleg ynni, a’u tri phlentyn.
Dechreuodd yr hediad o faes hofrenyddion Downtown Manhattan, cyn disgyn i lawr i Afon Hudson, sy’n gwahanu Dinas Efrog Newydd a New Jersey, tua 15:15.
Dywedodd swyddogion Adran Heddlu Efrog Newydd fod swyddogion brys wedi casglu ger Pier40 ar y West Side Highway a Spring Street, a bod ymdrechion adfer ar y gweill ar ddwy ochr yr afon.
Cafodd fideos o’r digwyddiad eu rhoi ar y cyfryngau cymdeithasol a oedd yn dangos cychod y gwasanaethau brys o amgylch yr hofrennydd a oedd wyneb i waered yn y dŵr.
Cyrhaeddodd Maer Dinas Efrog Newydd, Eric Adams, y lleoliad tua awr a hanner ar ôl y digwyddiad, a’i alw’n ddamwain “torcalonnus a thrasig".
Dywedodd un llygad-dyst iddo weld un o lafnau’r hofrennydd yn hedfan i ffwrdd.
“Dwi ddim yn gwybod beth ddigwyddodd i’r gynffon, ond fe ddisgynnodd yn syth," meddai wrth NBC News.
Cafodd lluniau o’r teulu’n gwenu eu postio ar wefan y cwmni hofrennydd, ychydig funudau’n unig cyn yr hediad.
Llun gan Reuters.