Rhaglen arbennig yn dilyn taith Caernarfon i fuddugoliaeth hanesyddol
Mae aelodau Clwb Rygbi Caernarfon wedi clodfori’r cefnogwyr a deithiodd i Gaerdydd i wylio buddugoliaeth hanesyddol y tîm dros y penwythnos.
Fe enillodd y Cofis o 30 pwynt i 29 yn erbyn Clwb Rygbi Athletig Pen-y-bont yn rownd derfynol Cwpan Adran Un dydd Sadwrn, yn Stadiwm Principality.
Teithiodd dros 700 o gefnogwyr Caernarfon i'r brifddinas ar gyfer y gêm.
Dywedodd y comedïwr a chyn chwaraewr Caernarfon, Tudur Owen, mai’r gêm oedd “diwrnod mwyaf yn hanes y clwb, heb os”.
Yn dilyn y llwyddiant hanesyddol, fe fydd rhaglen ddogfen Cofis yn y Ffeinal, yn dilyn taith y tîm i’r brifddinas yn cael ei ddangos ar-lein.
Cyn y gêm, dywedodd rheolwr y clwb, Dave Evans: "Ma’r holl gefnogaeth 'da ni wedi cael ar social media a pobl yn anfon negeseuon i fi - ma' 'di bod yn nyts!"
Ar y chwiban olaf, dywedodd Dafydd Roberts, cyn-chwaraewr a chyn-hyfforddwr Clwb Rygbi Caernarfon: "Dyna chdi greu hanes i glwb.
"Sbia faint o Gaernarfon sydd yma yn cefnogi hefyd. Hollol, hollol amazing."
Mae Cofis yn y Ffeinal ar gael ar sianel YouTube S4C nawr.