Newyddion S4C

Y Parc Thema Universal cyntaf yn Ewrop yn dod i Loegr

09/04/2025
Parc Thema Universal

Bydd Parc Thema Universal newydd, y cyntaf yn Ewrop, yn dod i Loegr.

Y bwriad yw adeiladu’r parc yn Sir Bedford, Dwyrain Lloegr erbyn 2031.

Cytundeb yw hwn rhwng Universal, Llywodraeth y DU a’r cyngor lleol.

Bydd yr atyniad yn un o’r mwyaf o’i fath yn Ewrop gyda disgwyl 8.5 miliwn i ymweld â’r lle yn y flwyddyn gyntaf.

Yn ôl Universal, bydd y parc yn rhoi hwb economaidd o £50 miliwn erbyn 2055.

Yn ogystal â’r parc, mae cynlluniau i adeiladu gwesty 500 ystafell a pharc adloniant a manwerthu.

Mae Prif Weinidog y DU wedi dweud y bydd yn creu tua 28,000 o swyddi; 20,000 yn ystod y cyfnod adeiladu ac 8,000 arall ar y safle pan fydd yn agor i’r cyhoedd.

Mae parciau thema Universal yn America yn cynnwys reidiau ac atyniadau o rai o ffilmiau mawr y cwmni fel ET, Shrek a Jurassic Park.

Mae gan Universal pum parc adloniant o gwmpas y byd.  

Llun: Universal Destinations & Experiences

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.