Newyddion S4C

Tomenni glo: 'Anodd gwarantu' na fydd bywydau'n cael eu colli eto

09/04/2025
glo

Mae dirprwy brif weinidog Llywodraeth Cymru wedi dweud bod hi’n “anodd” i  “warantu yn llwyr” na fyddai bywydau yn cael eu colli pe byddai yna drychineb domen lo arall.

Mewn cyfweliad gyda Sky News dywedodd Huw Irranca-Davies bod y cwestiwn yn un “amhosib” i'w ateb ond bod y llywodraeth yn gwneud popeth posib yn ariannol er mwyn datrys y broblem o domenni glo.

Yng Nghymru mae dros 2,500 o domenni glo segur yn ôl data Llywodraeth Cymru.

Mae’r mwyafrif yn “annhebygol iawn” o achosi niwed i’r cyhoedd ond mae 85 wedi eu rhoi yn y categori fwyaf difrifol. 

"Yr hyn allai warantu, gwarantu yn llwyr yw bod modd gweld y budd yn barod o’r gwaith pum mlynedd a mwy rydyn ni wedi gwneud. Felly rydyn ni yn gwybod beth yw cyflwr ac ansefydlogrwydd y tipiau gwahanol,” meddai wrth Sky News.

Dywedodd bod gwaith yn digwydd ar hyn o bryd ar y rhai sydd gyda’r flaenoriaeth uchaf. Mae hyn yn cynnwys y domen lo yng Nghwmtyleri.

Ym mis Tachwedd y llynedd fe wnaeth tomen lo yng Nghwmtyleri lithro wedi tywydd stormus. Roedd yn rhaid i bobl adael eu cartrefi.

Fe wnaeth glaw trwm achosi tirlithriad mewn tomen glo segur ym Mhendyrys, yng Nghwm Rhondda yn 2020 hefyd.

Yng Nghyllideb yr Hydref fe ddywedodd Llywodraeth y DU y byddai £25 miliwn o arian ychwanegol ar gael er mwyn diogelu tomenni glo yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn y gorffennol bod angen £500 i £600 miliwn dros y 10 i 15 mlynedd nesaf er mwyn diogelu rhag tirlithriadau pellach yn y dyfodol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.