Tollau uwch Trump yn dod i rym ar gyfer y 'pechaduriaid gwaethaf'
Tollau uwch Trump yn dod i rym ar gyfer y 'pechaduriaid gwaethaf'
Mae rhyw 60 o wledydd bellach yn gorfod talu tollau uwch wrth i'w nwyddau gael eu mewnforio gan America, wedi i reolau newydd Donald Trump ddod i rym.
Daeth y gyfradd sail o 10% i rym ar 5 Ebrill.
10% yw'r gyfradd ar gyfer y Deyrnas Unedig. Ond mae rhyw 60 o wledydd ar hyd a lled y byd wedi cael gwybod y bydd y tariff yn uwch ar eu cyfer nhw. Mae'r cyfraddau hynny yn dod i rym ddydd Mercher.
Yn ôl Arlywydd America, Donald Trump, y gwledydd hynny yw'r "pechaduriaid mwyaf " ac mae e'n dadlau nad ydynt wedi trin yr Unol Daleithiau'n deg ym maes masnach.
Tariff yr Undeb Ewropeaidd yw 20%, Fietnam 46%, Gwlad Thai 37%, Cambodia 49% a Lesotho 50%.
Ond mae'r ffrae fwyaf rhwng Tsieina ac America.
Ffrae Tsieina ac America
Mae Trump wedi gosod toll o 104% ar y rhan fwyaf o nwyddau Tsieina sy'n cyrraedd America.
Daw hyn wedi iddo fygwth tariff ychwanegol ar fewnforion o'r wlad.
Fe rybuddiodd Tsieina y bydden nhw yn cymryd “gwrth fesurau” yn erbyn Donald Trump pe byddai yn gwneud hyn. Mae o rŵan wedi gweithredu'r hyn roedd yn bygwth gwneud.
34% oedd y doll wreiddiol ar fewnforion o Tsieina a thariff arall o 20% wythnos diwethaf.
Fe ddywedodd Tsieina adeg hynny y bydden nhw yn gosod cyfradd tariffau o 34% ar fewnforion o'r Unol Daleithiau.
Mae Canghellor y Deyrnas Unedig Rachel Reeves yn mynnu bod pob opsiwn ar y bwrdd yn y trafodaethau masnach gyda'r Unol Daleithiau.
Llwyddodd marchnadoedd arian ar draws y byd i sefydlogi rywfaint ddydd Mawrth wedi colledion mawr yn y dyddiau blaenorol.
Mae pryderon am yr effaith ar gwmnïau a chwsmeriaid yn y Deyrnas Unedig.
'Poeni'
Ar ymweliad masnach â Denmarc, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan wrth raglen Newyddion S4C bod y sefyllfa yn ei phryderu.
"'Dwi yn poeni. Dwi'n poeni'n fawr, achos mi fydd hi'n cael effaith arnon ni, fydd hi'n cael effaith ar bobl sydd yn gweithio i gwmnïau sy'n allforio, ond hefyd mae 'na bosibilrwydd achos bod y tollau'n mynd i fyny mewn llefydd eraill, bydd mwy o bethau'n cael eu dympio ar Gymru felly bydd hwnna'n cael effaith ar gwmnïau eraill.
"Felly dwi'n poeni lot ynglŷn â'r sefyllfa, ac yn amlwg mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol am yr economi eisoes yn siarad gyda busnesau sy'n cael eu heffeithio a gyda'r undebau ynglŷn â sut dylen ni ymateb."