Ceredigion: Sêl bendith i 30 o dai ar gaeau chwarae cyn ysgol uwchradd
Mae cynllun ar gyfer 30 o dai newydd ar feysydd chwarae cyn ysgol uwchradd Gymraeg yng Ngheredigion wedi cael sêl bendith gan y cyngor sir.
Fe gafodd y cynllun sy’n cynnwys chwech o dai fforddiadwy ar gyn safle Ysgol Dyffryn Teifi yn Llandysul ganiatâd amodol ym mis Rhagfyr y llynedd.
Bydd y tai yn cael eu hadeiladu ar yr hyn oedd yn gaeau chwarae yr ysgol ar Heol y Gilfach yn Llandysul.
Fe gaeodd yr ysgol yn 2016 pan agorodd ysgol Ysgol Bro Teifi ar gyrion y dref yng Ngheredigion.
Roedd y safle yn wag nes cael ei werthu i’r perchnogion presennol, Dyffryn Teifi Developments Ltd yn 2021.
Bydd y cynllun yn cynnwys 22 o dai 2.5 llofft, pump ohonyn nhw’n fforddiadwy, dau fyngalo tair llofft, un ohonyn nhw’n fforddiadwy, dau fyngalo tair llofft, a phedwar tŷ pedair llofft.
Wrth alw am roi sêl bendith i’r cynllun dywedodd Cynghorydd Llandysilio a Llangrannog, Gareth Lloyd ei fod yn “ddewis da o dai ar gyfer pobl leol”.