Tariffau Trump: Tsieina'n bygwth taro'n ôl
Mae Tsieina wedi rhybuddio y bydd yn cymryd “gwrth fesurau” yn erbyn Donald Trump wedi iddo fygwth tariff ychwanegol o 50% ar fewnforion o’r wlad.
Mewn datganiad dywedodd gweinidogaeth fasnach Tsieina na fyddan nhw’n derbyn ymdrechion yr Unol Daleithiau i’w "blacmelio" bellach.
Mae'r datganiad yn dweud mai nod y camau y mae Tsieina wedi eu cymryd hyd yma yw “diogelu sofraniaeth a diogelwch” y wlad. Maent hefyd eisiau gallu parhau i “ddatblygu” a chynnal arferion sydd i’w ddisgwyl fel rhan o’r fasnach ryngwladol arferol.
Mae'r Unol Daleithiau yn gwneud “un camgymeriad ar ôl y llall” wrth barhau i fygwth codi tariffau meddai Tsieina.
“Ni fydd Tsieina byth yn derbyn hyn. Os ydy’r UDA yn mynnu gwneud peth ei ffordd ei hunain fe fydd Tsieina yn brwydro hyd nes y diwedd.”
Wythnos diwethaf fe gyhoeddodd Trump y byddai yn codi 34% ar fewnforion o Tsieina a thariff arall o 20%.
Fe ymatebodd Tsieina trwy ddweud y bydden nhw yn gosod cyfradd tariffau o 34% ar fewnforion o'r Unol Daleithiau.
Nawr mae Trump yn dweud y bydd yn gosod tariffau ychwanegol o 50% ar nwyddau Tsieina os na fyddan nhw yn newid ei meddwl.
Os bydd Trump yn bwrw ymlaen i wneud hyn fe fydd yn golygu tariff o 104% ar fewnforion Tsieina i’r Unol Daleithiau.
Fe ddaw'r ffrae wedi i farchnadoedd stoc Asia agor yn uwch ddydd Mawrth ar ôl cwymp dros y dyddiau diwethaf.