Newyddion S4C

Cyfarfod cyhoeddus i drafod cyfleusterau iechyd Dyffryn Nantlle

Newyddion S4C 08/04/2025

Cyfarfod cyhoeddus i drafod cyfleusterau iechyd Dyffryn Nantlle

Daeth dros 150 i gyfarfod cyhoeddus i Neuadd Goffa Penygroes, Dyffryn Nantlle, nos Lun i drafod cyfleusterau iechyd yr ardal.

Mae cynlluniau i greu canolfan iechyd a lles newydd wedi bod ar y gweill ers blynyddoedd, ond hyd yma does dim wedi digwydd.

Bwriad y cynlluniau gwreiddiol oedd y byddai ‘Canolfan Lleu’ yn clymu gwasanaethau iechyd, tai, a swyddfeydd erill efo’i gilydd.

Ond, gyda chymaint o oedi mae yna bryder am ddyfodol y prosiect.

Siân Gwenllian, Aelod Senedd Cymru Arfon, oedd wedi trefnu’r cyfarfod cyhoeddus er mwyn ceisio cael atebion am y camau nesaf.

Dywedodd: “Mae ‘di bod yn amser hir iawn ers i ni ddechrau trafod yr angen am gyfleusterau iechyd gwell ar gyfer y Dyffryn i gyd.

“Yn anffodus mae pethau wedi llusgo a llusgo a llusgo. Mae ‘na safle yma yn y pentre’ ond mae o’n wag.

“Mae o’n hen bryd rŵan i ni gael clywed newyddion dipyn bach mwy calonogol neith godi pobl bod ‘na rywbeth mynd i ddigwydd.” 

'Hen bryd'

Yn ôl un sy’n byw yn lleol, mae’n “hen bryd” i’r safle cael ei ddatblygu ac i drigolion cael “rhyw fath o syniad be sy’n digwydd.” 

“Mae’r lle meddyg ochr arall i’r lon yn fan ‘ma, mae rhy fach o lawer,” meddai Gwilym Roberts. 

“Weithiau da ni’n gorfod disgwyl yn y ffordd i mynd i mewn yna – yn enwedig yn y gaeaf, dwi wedi gweld tua pedwar/pump yn disgwyl yn y rain i gael mynd i weld y meddyg,” ychwanegodd.

Dywedodd Caryl Morris sydd hefyd yn byw yn yr ardal: “O brofiad personol, dwi isio gweld y lle yn datblygu i helpu pobol efo anghenion iechyd meddwl; bipolar, schizophrenia a pethau felly.” 

Roedd cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Grŵp Cynefin yn bresennol i gynnig eglurder ac i ateb cwestiynau’r bobol leol.

Dywedodd llefarydd ar ran Grŵp Cynefin a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr nos Lun: "Mae canolfan les arfaethedig Canolfan Lleu ym Mhenygroes wedi esblygu'n sylweddol ers i’r prif gynllun gwreiddiol gael ei gytuno gan sawl partner...fodd bynnag, ers hynny, mae newidiadau allweddol wedi effeithio ar y prosiect.

"Er gwaethaf yr heriau hyn, mae ymrwymiad cryf o hyd i ddarparu cynnig iechyd a lles i gymuned Dyffryn Nantlle. 

"Y nod yw sicrhau cytundeb Llywodraeth Cymru i symud ymlaen gyda chynllun mwy cymedrol sy'n dal i gynnal egwyddorion craidd darpariaeth gofal iechyd modern."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.