Newyddion S4C

Rhinoseros prin yn disgwyl llo am yr eildro

ITV Cymru 07/04/2025
Rhino

Mae rhinoseros prin sy'n byw mewn atyniad i ymwelwyr yn y de orllewin, yn disgwyl llo am yr eildro. 

Dakima yw enw’r rhinoseros du dwyreiniol 12 oed ac mae'n byw yn sŵ Folly Farm yn Sir Benfro.

Mae’r math hwn o rhinoseros yn rhywogaeth sydd o dan fygythiad.

Mae Folly Farm yn gweithredu cynllun i geisio gwarchod bridiau prin.    

"Mae'n rhaglen yn ymwneud â helpu i gynnal elfennau genetic cywir a chryf o fewn ein poblogaeth," meddai Daniel Sutton o Folly Farm.

"Os bydd unrhyw greadur yn mynd yn ôl i'r gwyllt, mae ganddyn nhw'r siawns orau bosibl o oroesi a ffynnu," ychwanegodd 

Image
Rhino

I gadarnhau bod Dakima yn feichiog, casglodd y tîm samplau o’i charthion yn ddyddiol am fis. 

Cafodd y samplau eu rhewi cyn cael eu profi i wirio lefelau hormonau a beichiogrwydd. 

Ar ôl mis, derbyniodd y tîm ganlyniad positif. Bydd Dakima yn feichiog am tua 15 mis, ac mae disgwyl iddi roi genedigaeth i’w hail lo ym mis Tachwedd.

Tua phum mlynedd yn ôl, magodd Dakima ei llo cyntaf o'r enw Glyndŵr.

Image
rhino

Pan ddaeth y rhinoseros du dwyreiniol i Folly Farm 10 mlynedd yn ôl, y gred oedd bod llai na 650 ohonynt ar ôl yn y gwyllt. Gydag ymdrechion i'w gwarchod, mae eu niferoedd bron wedi dyblu i 1400, erbyn hyn.

Dywedodd Jack Gradidge, swyddog cadwraeth Folly Farm: "Nid yw'r rhinos yn gwneud yn dda yn y gwyllt oherwydd potsio, sef eu lladd yn anghyfreithlon am eu cyrn.

"Mae'r boblogaeth rydyn ni'n ei chadw ledled Ewrop yn bwysig iawn i hybu’r niferoedd hynny.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.