Newyddion S4C

Trelái: Dim cyhuddiadau yn erbyn heddwas wedi marwolaeth dau fachgen

S4C

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi penderfynu na fydd yn dwyn cyhuddiadau troseddol yn erbyn un o swyddogion Heddlu De Cymru yn dilyn marwolaethau dau fachgen mewn gwrthdrawiad beic trydan yn Nhrelái, Caerdydd, ar 22 Mai 2023.

Bu farw Harvey Evans, 15 oed, a Kyrees Sullivan, 16 oed, yn y digwyddiad.

Roedd yr heddwas sydd wedi bod dan ymchwiliad yn dilyn y bechgyn mewn fan heddlu ar y pryd.

Cafodd nifer o bobl eu harestio yn dilyn anhrefn difrifol yn Nhrelái yn dilyn marwolaethau'r ddau fachgen.

Dywedodd Malcolm McHaffie, Pennaeth Adran Troseddau Arbennig Gwasanaeth Erlyn y Goron mewn datganiad ddydd Llun: “Rydym yn dal i feddwl am deuluoedd a ffrindiau’r ddau oedd yn eu harddegau yn dilyn eu marwolaethau trasig ym mis Mai 2023.

“Yn dilyn adolygiad trylwyr a manwl o’r dystiolaeth mewn perthynas ag un honiad o yrru’n beryglus yn yr achos hwn, rydym wedi penderfynu na fydd unrhyw gyhuddiadau troseddol yn cael eu dwyn yn erbyn un o swyddogion Heddlu De Cymru. 

“Rydym wedi dod i’r casgliad nad oes digon o dystiolaeth i roi gobaith realistig o euogfarn.

“Rydym yn deall yn iawn y bydd hyn yn newyddion siomedig i deuluoedd y ddau fachgen a byddwn yn cynnig cyfarfod gyda nhw i egluro ein rhesymu ymhellach.”

Mae’r penderfyniad yn amodol ar y cynllun Hawl Dioddefwr i Adolygu (VRR) sy’n rhoi proses a ddyluniwyd yn benodol i ddioddefwr neu ei deulu mewn rhai dosbarthiadau o achosion i arfer yr hawl i adolygu rhai o benderfyniadau Gwasanaeth Erlyn y Goron i beidio â dechrau erlyniad neu i atal erlyniad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.