Enwi bachgen fu farw ar ôl mynd i drafferthion mewn llyn yn Llundain
Mae bachgen 15 oed fu farw "ar ôl mynd i drafferthion" mewn llyn yn Llundain wedi cael ei enwi.
Fe wnaeth Heddlu'r Met gyhoeddi mai Izaiah Smith oedd enw'r bachgen ifanc.
Cafodd yr heddlu a pharafeddygon eu galw i Barc Beckenham Place yn Lewisham toc wedi 15.00 ddydd Gwener.
Ar ôl ymgyrch chwilio gan dimau achub fe gafodd corff Izaiah ei ddarganfod nos Wener.
Fe ddefnyddiwyd arbenigwyr deifio, gweithwyr tân a chriwiau ambiwlans i chwilio amdano, meddai'r llu.
"Cafodd bachgen ei ddarganfod yn y llyn tua 22.42 ddydd Gwener, 4 Ebrill. Fe aeth i'r ysbyty ond yn drist iawn roedd wedi marw.
"Mae ei farwolaeth yn cael ei drin fel un annisgwyl ond nid ydym yn credu ei fod yn amheus," meddai llefarydd ar ran Heddlu'r Met.
Dros y penwythnos, dywedodd Cyngor Lewisham y bydd y llyn yn parhau ar gau gyda swyddogion diogelwch yno.
Dywedodd y cyngor mewn datganiad eu bod yn cydweithio'n agos gyda'r heddlu er mwyn darganfod beth ddigwyddodd.