Newyddion S4C

'Wythnos waethaf ers Covid' i farchnadoedd America wrth i dariffau 10% ar y DU ddod i rym

Tariffau Trump

Mae marchnadoedd ariannol yn yr Unol Daleithiau wedi profi'r wythnos waethaf ers Covid wrth i dariffau Donald Trump gael effaith ar farchnadoedd ledled y byd.

Mae gwerth cyfranddaliadau y 500 cwmni mwyaf ar farchnad stoc yr Unol Daleithiau wedi syrthio 4% ddydd Gwener a dros 10% dros y mis diwethaf.

Fe allai pethau gwaethygu wrth i dariffau 10% ar fewnforion y DU a gyhoeddwyd gan Trump ddod i rym ddydd Sadwrn.

Mae disgwyl i'r Prif Weinidog Syr Keir Starmer siarad ag arweinwyr gwledydd eraill am y tariffau dros y penwythnos, wedi iddo eisoes siarad ag arweinwyr Awstralia a'r Eidal.

Disgynnodd cyfranddaliadau Awstralia 191.90 pwynt erbyn diwedd ddydd Gwener, yr isaf ers dros 100 diwrnod.

Fe ddaeth y tariff 10% ar fewnforion o'r DU i America i rym am 05:00 ddydd Sadwrn - a bydd tariffau hyd yn oed yn uwch yn dod i rym ar gyfer gwledydd yr EU wythnos nesaf.

Mae China wedi ymateb i dariffau 34% ar eu mewnforion trwy osod yr un tariff ar fewnforion o'r Unol Daleithiau i'w wlad.

Mae Donald Trump wedi dweud bod angen i'r Unol Daleithiau bod yn gadarn yn eu penderfyniad i godi tariffau.

Mewn post ar TruthSocial, dywedodd: "Dyw busnes mawr ddim yn poeni am y tariffau, achos maen nhw'n gwybod bod nhw yma i aros.

"Ond rydym yn ffocysu ar y CYTUNDEB, MAWR, HYFRYD, a fydd yn HWB ENFAWR i'n heconomi."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.