
Galw ar y Wal Goch i gefnogi Cymru yn eu gêm olaf yng Nghaerdydd cyn Euro 2025
Mae Rachel Rowe wedi galw ar y Wal Goch i ddod i wylio Cymru chwarae yn eu gêm olaf yng Nghaerdydd cyn Euro 2025.
Fe fydd Cymru yn wynebu Denmarc yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener.
Colli yn erbyn yr Eidal a gêm gyfartal yn erbyn Sweden yw hanes tîm Rhian Wilkinson yn y gystadleuaeth hyd yma.
Maen nhw yn grŵp A4 ac yn wynebu rhai o dimoedd gorau'r byd cyn cystadlu yn Euro 2025 yn y Swistir mewn ychydig fisoedd.
Galw mae'r ymosodwr Rachel Rowe i gefnogwyr Cymru brynu tocynnau ar gyfer yr ornest yn erbyn Denmarc.
"Mae cefnogaeth yn hanfodol i ni fel chwaraewyr," meddai.
"Mae e fel cael 10,000 o chwaraewyr ychwanegol ar y cae. Mae'r llais, y sŵn yn wefreiddiol, a pe bai ystadegau yn bodoli mae'n siŵr eich bod chi'n perfformio’n well pan mae mwy o gefnogwyr yn y stadiwm.
"Os nad ydych chi wedi bod i gêm Cymru o'r blaen, dewch i gael blas arni. Ni ddylai unrhyw un benderfynu nad ydyn nhw'n hoff o rywbeth heb ei brofi."

'Newid agwedd'
Nid yw Cymru erioed wedi ennill yn erbyn Denmarc, gan golli ar dri achlysur.
Maen nhw ar waelod y grŵp tra bod eu gwrthwynebwyr yn ail, wedi iddyn nhw guro'r Eidal a cholli i Sweden.
Dywedodd Rachel Rowe bod Rhian Wilkinson wedi newid agwedd y garfan wrth chwarae yn erbyn timoedd o safon uwch.
"Rydym yn trawsnewid i dîm sydd yn chwarae'n daclus ac yn cadw'r bêl ar y llawr," meddai.
"Rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i amddiffyn a bod yn dîm sydd yn anodd sgorio yn eu herbyn; dyna mae ein hunaniaeth wedi bod erioed, ond nawr rydym yn datblygu i rywbeth arall.
"Mae hynny oherwydd bod gennym y rhyddid i wneud hynny, ac yn y gorffennol nad oedd modd i ni wneud.
"I weld y newid ac i weld y cyfeiriad rydym yn mynd iddo, rydym yn ceisio gwella ac adeiladu ar ein ffordd o chwarae ac mae hynny'n gyffrous."
Bydd Cymru yn herio Sweden a Denmarc oddi cartref cyn herio'r Eidal yn Nantporth i glo eu hymgyrch yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA.
Fydd hynny ar 3 Mehefin cyn i garfan Rhian Wilkinson deithio i'r Swistir i chwarae yng nghystadleuaeth yr Euros am y tro cyntaf yn eu hanes.