Newyddion S4C

Ymgyrchwyr Greenpeace yn dringo adeilad wrth brotestio yn Llundain

Baner 'Lammy don't dally!'

Mae ymgyrchwyr Greenpeace wedi dringo adeilad y tu allan i’r Swyddfa Dramor yn Llundain er mwyn protestio yn erbyn oedi wrth arwyddo cytundeb rhyngwladol i amddiffyn y cefnforoedd. 

Roedd pedwar aelod o’r mudiad amgylcheddol wedi cymryd rhan yn y brotest drwy ddringo mynedfa Stryd y Brenin Charles yn Westminster gan alw ar Ysgrifennydd Dramor Llywodraeth y DU, David Lammy i weithredu ar frys. 

“Lammy peidiwch ag oedi!” (neu ‘Lammy don’t dally!’ yn Saesneg), meddai’r faner. 

Image
Ymgyrchwyr Greenpeace
Ymgyrchwyr Greenpeace yn dringo (Llun: James Manning/PA Wire)

Mae Greenpeace yn galw ar Mr Lammy i arwyddo cytundeb gyda’r nod o ddiogelu bywyd môr trwy osod rheoliadau llymach ar bysgota a mwyngloddio yn y môr dwfn. 

Cytunwyd ar y cytundeb yn wreiddiol ym mis Mawrth 2023 ac mae 21 o wledydd eisoes wedi’i arwyddo. Fe ddaw hynny cyn i Gynhadledd Cefnfor y Cenhedloedd Unedig gael ei chynnal ym mis Mehefin. 

Roedd David Lammy wedi cyfarfod gyda swyddogion tramor Nato ym Mrwsel ddydd Iau. 

Fe gafodd y gwasanaethau brys, gan gynnwys y gwasanaeth tan a’r heddlu, eu galw i’r digwyddiad yn Llundain ddydd Iau. 

Roedd ffyrdd yn yr ardal wedi parhau ar agor trwy gydol y digwyddiad. 

Mae Heddlu'r Met a'r Swyddfa Dramor wedi cael cais am ymateb. 

Lluniau: James Manning/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.