
'Braint' ennill cyfres gyntaf Y Llais oherwydd pwysigrwydd yr iaith Gymraeg
'Braint' ennill cyfres gyntaf Y Llais oherwydd pwysigrwydd yr iaith Gymraeg
Mae’r gantores a’r gyfansoddwraig Rose Datta wedi dweud ei fod yn "fraint" ennill cyfres gyntaf Y Llais eleni – a hynny oherwydd bod y Gymraeg mor ‘sbesial’ iddi.
Fe gafodd Rose, 18 oed o Gaerdydd, ei choroni fel enillydd cyntaf y fersiwn Gymraeg o’r gyfres deledu fyd-eang The Voice, yn ystod y ffeinal nos Sul.
Wrth siarad â Newyddion S4C, mae bellach wedi dweud bod yr iaith Cymraeg yn hollbwysig iddi gan gyfrannu at ei balchder wedi iddi ennill.
“Y ffaith taw fi oedd yr [enillydd] cyntaf, fi’n teimlo fel mae hwnna’n ‘chydig o braint – yn enwedig yn Cymru," meddai.
“Mae’n gobeithio, rhywbeth mae pobl mynd i cofio."
Dywedodd Rose, sy'n brif leisydd y band Taran, ei bod yn angerddol dros gyfansoddi a pherfformio drwy’r Gymraeg.
“Mae’r iaith yn rili sbesial i fi, ‘nes i ‘neud addysg fi gyd yn Gymraeg a mae’n rili bwysig i fi bod ‘na mwy o gerddoriaeth Cymraeg yn dod mas.”

'Ddim yn disgwyl hyn'
A hithau’n cynrychioli Tîm Aleighcia Scott yn y gystadleuaeth dywedodd ei bod hi wedi synnu yn dilyn ei buddugoliaeth.
“O’ fi rili ddim yn disgwyl ennill achos odd bawb nath cystadlu yn absolutely fab," meddai.
“I gallu profi hwn, yn enwedig nawr fi ar gap year fi, mae jyst bach fel – wow fi ddim yn disgwyl i hyn digwydd.”
Fel rhan o’r ffeinal, fe wnaeth y cystadleuwyr – oedd hefyd yn cynnwys Anna Arrieta o Dîm Yws Gwynedd, Liam J. Edwards fel rhan o Dîm Bronwen Lewis a Sara Owen yn cynrychioli Tîm Syr Bryn Terfel – berfformio gyda’u hyfforddwyr.
Roedd yn anrhydedd perfformio gyda’r “eicon” Aleighcia Scott, meddai Rose.
Dywedodd y gantores Aleighcia Scott fod buddugoliaeth fel hyfforddwr yng nghyfres gyntaf Y Llais yn deimlad “da.”
“Ond dim fi enillodd, mae Rose wedi ennill, a dwi’n mor falch i gweld Rose ennill,” meddai.
Pe bai ‘na ail gyfres o Y Llais, dywedodd y gantores y bydd hi’n chwilio unwaith eto am “dalent” a “rhywbeth arbennig".