Dod o hyd i gorff dyn oddi ar arfordir Caernarfon
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cyhoeddi fod corff dyn wedi cael ei ddarganfod oddi ar arfordir Caernarfon.
Derbyniodd yr heddlu adroddiadau yn oriau mân fore Iau fod dyn oedrannus o ardal Caernarfon wedi methu â dychwelyd i'w gartref.
Dechreuodd yr ymgyrch i chwilio amdano gyda hofrennydd gwylwyr y glannau, yr uned drôn a swyddogion arbenigol yn bresennol.
Cafodd corff y dyn ei ddarganfod yn oriau mân fore Iau yn y dŵr ger Pwynt Abermenai.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Ychydig wedi hanner nôs ar ddydd Iau, 27 Mawrth derbyniodd swyddogion adroddiad fod dyn oedrannus yn ardal Caernarfon wedi methu â dychwelyd adref.
"Ar 04:45 ar 27 Mawrth, fe gafodd corff dyn ei ddarganfod o'r dŵr gan Wylwyr y Glannau ger Pwynt Abermenai, Caernarfon. Mae teulu'r dyn a'r crwner wedi cael gwybod."