Cymro wedi marw o anaf i’w ben ar ôl syrthio o feic modur yng Ngwlad Thai
Mae cwest wedi dod i’r casgliad bod Cymro 28 oed wedi marw o anaf i’w ben ar ôl syrthio o feic modur yng Ngwlad Thai.
Bu farw Corey George Beavis o Landochau Fach, Bro Morgannwg drwy ddamwain ar ôl hollti ei benglog mewn gwrthdrawiad ffordd yn rhanbarth Kathu, Phuket ym mis Ionawr.
Dywedodd y crwner Graeme Hughes yn Llys Crwner Pontypridd ei fod wedi “ail-leoli i Wlad Thai.
“Ar 4 Ionawr roedd yn reidio beic modur yn Ardal Kathu, Phuket,” meddai.
“Credir ei fod wedi colli rheolaeth, ac wedi dod oddi arno.
“O ganlyniad, fe wnaeth e ddioddef anaf difrifol i'w ben. Bu farw o ganlyniad i’r anaf yn y fan a'r lle.”
Wrth agor ei gwest yn flaenorol roedd y crwner wedi clywed bod ei feic modur wedi bwrw ochr y ffordd.
Ar ôl ei farwolaeth fe sefydlodd ei deulu ymgyrch JustGiving i ddychwelyd ei gorff i’r DU, gan godi dros £40,000.
Wrth roi teyrnged iddo dywedodd ei deulu ei fod yn “gymeriad mawr gyda chwerthiniad heintus”.
“Fe wnaeth o fyw bywyd x10 tu hwnt i’w ddisgwyliadau,” medden nhw.