Tri yn y ddalfa wedi i gannoedd o blanhigion canabis gael eu darganfod ger Caerfyrddin
31/03/2025
Mae tri o bobl wedi eu cyhuddo a'u cadw yn y ddalfa ar ôl i'r heddlu ddod o hyd i blanhigion canabis gwerth hyd at £595,000 yn tyfu mewn hen ganolfan teiars ar gyrion Caerfyrddin.
Fe aeth swyddogion o Heddlu Dyfed-Powys Police i'r safle yn Nhre Ioan ddydd Mercher diwethaf, a dod o hyd i 566 o blanhigion canabis yno.
Mae'r tri dyn a gafodd eu harestio, Atnant Kuka, Edison Kuka ac Orgest Bobo wedi eu cyhuddo o gynhyrchu canabis.
Cafodd y warant ei chyhoeddi yn rhan o Ymgyrch Scotney, wrth i'r llu geisio mynd i'r afael â ffatrioedd canabis mawr sy'n cael eu sefydlu gan gangiau troseddol.