Enwi merch bedair oed, ei mam a dyn ifanc fu farw mewn tân
Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enwau merch bedair oed, ei mam a dyn ifanc fu farw mewn tân yn Sir Northampton.
Bu farw Mayci Fox, pedair oed, a’i mam Emma Conn, 30, y ddau o Desborough, Sir Northampton yn y tân mewn adeilad yn Rushton nos Wener.
Fe fuodd Louie Thorn, 23 oed, o Rushton hefyd farw yn y tân meddai Heddlu Northampton.
Mae enwau'r dioddefwyr wedi’u cyhoeddi gyda chaniatád eu teuluoedd, ond nid yw eu cyrff wedi eu hadnabod yn ffurfiol eto.
Cafodd dyn 54 oed ei arestio a'i gadw yn y ddalfa ddydd Sadwrn. Ond mae bellach wedi'i rhyddhau yn ddigyhuddiad.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Ruby Burrow, o Uned Gweithrediadau Arbennig Dwyrain Canolbarth Lloegr: "Mae’n iawn fod digwyddiad fel hwn yn cael ei drin gyda’r difrifoldeb mwyaf.
"Ar ôl archwilio’r wybodaeth sydd ar gael yn drylwyr, nid ydym yn credu bod unrhyw dystiolaeth o gamwedd troseddol ar hyn o bryd.
"O ganlyniad mae'r dyn gafodd ei arestio wedi ei ryddhau yn ddigyhuddiad a bydd nawr yn cael ei gefnogi gan swyddogion arbenigol wrth iddo barhau i gynorthwyo'r tîm ymchwilio."
Ychwanegodd: "Mae hon yn sefyllfa dorcalonnus.
"Mae fy meddyliau i, a rhai pawb sy’n ymwneud â'r ymateb i’r tân hwn, gyda’r bobl a fu farw a’r rhai sy’n eu caru."
Dangosodd lluniau o’r safle dwll mawr wedi’i losgi trwy do’r adeilad. Roedd yr adeilad yn arfer bod yn orsaf reilffordd cyn iddo gael ei newid i fod yn dŷ. Mae'n adeilad rhestredig Gradd II ers 1981.
Llun gan Jacob King / PA.