Pennaeth Primark yn ymddiswyddo wedi honiad am ei ymddygiad tuag at fenyw
Mae pennaeth Primark wedi ymddiswyddo wedi honiad ynglŷn â’i ymddygiad tuag at un fenyw.
Yn ôl Associated British Foods (ABF), sef y cwmni sydd yn berchen ar Primark, mae Paul Marchant wedi rhoi’r gorau i’w swydd fel prif weithredwr yn syth yn dilyn ymchwiliad.
Mae’r digwyddiad yn ymwneud gyda'i “ymddygiad tuag ati (menyw) mewn awyrgylch cymdeithasol”.
Dywedodd y cwmni fod Mr Marchant wedi “cydnabod ei fod wedi gwneud camgymeriad yn ei benderfyniad ac yn derbyn fod ei weithredoedd ddim yn cwrdd â’r safonau rydym ni yn disgwyl yn ABF”.
Maent hefyd yn dweud ei fod wedi cydweithredu gyda’r ymchwiliad.
“Mae wedi ymddiheuro i’r unigolyn dan sylw, bwrdd yr AFB, ei gydweithwyr Primark ac eraill sydd yn gysylltiedig gyda’r busnes,” meddai’r datganiad gan y cwmni.
Fe fyddan nhw yn parhau i gefnogi’r unigolyn sydd wedi ei heffeithio medden nhw.
Fe ddechreuodd Mr Marchant yn ei swydd yn 2009. Cyn hynny roedd yn brif swyddog gweithredu gyda New Look ac mae wedi cael swyddi gyda Debenhams, Topman a River Island yn y gorffennol.