Newyddion S4C

£3.8 miliwn i dair cymuned yng Ngwynedd ar gyfer atal llifogydd

llifogydd

Fe fydd £3.8m yn cael ei roi i Gyngor Gwynedd ar gyfer gwaith o geisio atal llifogydd mewn tair ardal o'r sir yn y dyfodol.

Mae'r arian yn rhan o becyn £77 miliwn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau atal llifogydd i ddiogelu cymunedau, cartrefi a busnesau

Y cymunedau a fydd yn elwa o’r buddsoddiad fydd:

  • Bontnewydd – £2miliwn wedi ei glistnodi gan y Llywodraeth ar gyfer adeiladu amddiffynfeydd llifogydd ar Afon Beuno yn Nol Beuno ynghyd ag uwchraddio'r wal amddiffyn rhag llifogydd presennol ar Afon Gwyrfai ger Glanrafon. Bydd mesurau eraill yn cynnwys gwella'r draeniad dŵr wyneb. Disgwylir i'r gwaith ddechrau yn 2025 a'i gwblhau yn 2026.
  • Caernarfon – Gwaith i ddechrau ar 1 Ebrill ar brosiect £693,000 i uwchraddio sgrin malurion ar Afon Cadnant ger Ffordd Llanberis, Caernarfon. Bydd y sgrin yn helpu i gadw’r afon yn llifo drwy atal malurion fel canghennau coed a sbwriel rhag mynd i mewn i geuffos 1km o hyd sy’n rhedeg o dan strydoedd Caernarfon. Bydd hyn yn helpu i leihau’r perygl o lifogydd ar law trwm.
  • Mynydd Llandegai – Mae £1.25miliwn wedi'i roi ar gyfer adeiladu cynllun fydd yn helpu i leihau'r perygl o lifogydd yn y pentref. Bydd y gwaith yn cynnwys gwelliannau i ddraeniad dŵr wyneb, uwchraddio cwlfertau diffygiol presennol ac amddiffynfeydd llifogydd lleol i ddargyfeirio llwybrau llif oddi wrth eiddo. Mae'r gwaith hwn yn ychwanegol at yr ymyriadau rheoli llifogydd naturiol sydd eisoes mewn lle.

 Dywedodd y Cynghorydd June Jones, Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros Adran Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Cyngor Gwynedd:

“Yn anffodus, mae llifogydd yn dod yn fwy ac yn fwy cyffredin oherwydd tywydd eithafol o ganlyniad i newid hinsawdd. Mae rhai o’n trefi a’n pentrefi wedi dioddef llifogydd yn y gorffennol wnaeth achosi difrod sylweddol ac roedd yn dorcalonnus i bobl leol, ac mae cymunedau eraill mewn perygl o lifogydd.

“Rwy’n falch iawn bod y cyllid ar gyfer y gwaith pwysig hwn wedi’i sicrhau ac rwy’n falch ein bod wedi gallu gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a chymunedau lleol i gyrraedd y garreg filltir hon.

 “Bydd y grant hwn yn galluogi ein peirianwyr i symud y prosiectau hyn ymlaen. Edrychaf ymlaen at weld y cynlluniau’n cael eu gwireddu ac yn helpu i amddiffyn pobl, cartrefi a busnesau Gwynedd.”

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd ym Montnewydd, gyda gwaith ymchwilio i wal llifogydd stad Glanrafon wedi ei gynnwys yn y prosiect.

Dywedodd Sian Williams, Pennaeth Gweithrediadau Gogledd Orllewin Cymru CNC: “Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd ar y prosiect hwn a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

“Dangosodd ein hymchwiliadau cychwynnol i’r wal lifogydd, os bydd lefelau dŵr yn cynyddu’n sylweddol, y gallai ddod yn llai sefydlog.

“Mae tîm y prosiect yn edrych ar gynigion ar hyn o bryd a bydd yn datblygu opsiynau dylunio posibl yn y misoedd nesaf cyn rhannu’r rhain â’r cyhoedd."

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.