Newyddion S4C

Cynnal gwasanaeth angladdol Geraint Jarman yng Nghaerdydd

27/03/2025

Cynnal gwasanaeth angladdol Geraint Jarman yng Nghaerdydd

Mae gwasanaeth angladdol y cerddor a'r cyfarwyddwr teledu dylanwadol Geraint Jarman wedi cael ei gynnal yng Nghaerdydd ddydd Iau.

Bu farw'n 74 oed gyda'i deulu wrth ei ochr ar 2 Mawrth. 

Roedd yn un o ffigyrau mwyaf eiconig cerddoriaeth fodern Gymraeg.

Roedd y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel y Wenallt yn Amlosgfa Thornhill, gyda nifer o wynebau cyfarwydd o fyd cerddoriaeth a thu hwnt yn bresennol.

Yn ddiweddarach brynhawn dydd Iau bydd dathliad o'i fywyd a'i gerddoriaeth yn cael ei gynnal yn y Tramshed, Caerdydd.

Cafodd Geraint Jarman ei fagu yn Rhuthun ar ddechrau'r 50au, cyn symud i fyw i Gaerdydd yn bedair oed.

Roedd ei fagwraeth yn ardal Glan yr Afon o'r brifddinas yn ganolog i'w ganeuon a'i farddoniaeth drwy gydol ei yrfa.

Daeth yn amlwg fel artist blaenllaw yn ystod 70au'r ganrif ddiwethaf gyda'i fand Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr.

Cyhoeddodd ei albwm unigol gyntaf, 'Gobaith Mawr y Ganrif' ar label Sain yn 1976.

Datblygodd ei sain unigryw ar recordiau diweddarach gan gynnwys 'Hen Wlad fy Nhadau', 'Tacsi i'r Tywyllwch' a 'Gwesty Cymru'.

Roedd hefyd yn actor dawnus ac yn fardd oedd wedi cyhoeddi nifer o gyfrolau.

Dywedodd y cerddor a'i ffrind Cleif Harpwood: "Dwi’n meddwl am ei gerddoriaeth fwy ‘na dim byd arall, ei gofio am ei gerddoriaeth, ei gofio fe hefyd am ei ymroddiad i’r byd roc Cymru a diolch iddo hefyd am symud y byd roc ymlaen gan ddechrau yn y 70au.

"Cyfnod cyffrous dros ben a wedyn mi gydiodd Geraint a’i Gynganeddwyr yn y sîn roc a jest symud y peth ymlaen. 

"A na’th e hynny wedyn dros nifer o ddegawdau."


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.