Newyddion S4C

Canslo'r rhaglen deledu Dancing On Ice

27/03/2025
Dancing on Ice

Mae'r rhaglen deledu boblogaidd Dancing On Ice wedi'i chanslo gan ITV.

Mewn datganiad dywedodd ITV nad oes gan y cwmni "unrhyw gynlluniau" ar gyfer cyfres arall o Dancing On Ice.

Dywedodd llefarydd ar ran ITV: "Yn dilyn cyfres lwyddiannus arall eleni, bydd Dancing On Ice yn cael ei chanslo yn 2026 heb unrhyw gynlluniau ar gyfer cyfres arall ar hyn o bryd.

"Hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’r holl gast a chriw sydd wedi gweithio ar y sioe ers 2006, a thros yr 17 cyfres flaenorol, am eu holl waith caled ar y rhew ac oddi ar y rhew."

Yn gynharach yn y mis fe gyhoeddodd Holly Willoughby a Stephen Mulhern mai'r actor Sam Aston oedd enillydd y gyfres ddiweddaraf.

Mae dros 200 o enwogion wedi cymryd rhan yn y gyfres ers iddi ddechrau yn 2006.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.