Cerddwr mewn cyflwr difrifol wedi damwain ar ffordd yn Sir Benfro
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad "difrifol" ar ffordd yr A40 rhwng Hwlffordd a Chasblaidd am tua 21.10 ar ddydd Sadwrn, 22 Mawrth.
Roedd y gwrthdrawiad yn ymwneud â cherddwr a Vauxhall Astra glas rhwng cylchfan Days a gorsaf betrol Ridgeway.
Cafodd y cerddwr anafiadau difrifol ac fe gafodd ei gludo mewn hofrennydd i'r ysbyty lle mae'n parhau i fod mewn cyflwr sefydlog ond difrifol.
Bu’r ffordd ar gau am 21:25 ac fe’i hail-agorwyd ychydig cyn 04:00 y diwrnod canlynol.
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu gyda'r ymchwiliad, gan gynnwys unrhyw un a oedd yn teithio ar hyd y ffordd ar y pryd gyda fideo dash-cam i gyslltu gyda nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 348/Mawrth 22.