Cyhuddo dyn o ddianc o fan carchar oedd ar ei ffordd i’r llys
Fan GEOAmey
Mae dyn wedi’i gyhuddo o ddianc o fan carchar oedd ar y ffordd i’r llys, meddai’r heddlu.
Cafodd Jamie Cooper, 33, ei gyhuddo o ddianc o gerbyd GEOAmey ar yr M55 wrth deithio i Lys Ynadon Caerhirfryn (Lancaster) ddydd Mercher.
Mae wedi cael ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Blackburn ddydd Llun, meddai Heddlu Swydd Gaerhirfryn ddydd Sul.
Dywedodd y llu eu bod wedi derbyn adroddiad am y ddihangfa honedig ar yr M55 ger cyffordd dau, ger Preston, tua 8.54am ddydd Mercher.
Cafwyd hyd i Cooper yn Blackburn brynhawn Sadwrn ar ôl i gar oedd yn teithio o gyfeiriad Bolton gael ei stopio.