Newyddion S4C

Y Pab yn ymddangos yn gyhoeddus am y tro cyntaf ers dros fis wrth adael yr ysbyty

23/03/2025
Y Pab

Mae’r Pab wedi ymddangos yn gyhoeddus am y tro cyntaf ers dros fis gan annerch torf o falconi ysbyty Gemelli yn Rhufain ddydd Sul.

Mae'r Pab Ffransis, sy’n 88 oed, wedi bod yn gwella ar ôl cael niwmonia.

Bendithiodd y dorf a siarad Eidaleg gan ddiolch iddyn nhw a chydnabod un ddynes yn y dorf a oedd yn dal blodau.

Cafodd ei ryddhau o’r ysbyty yn ddiweddarach gan ddychwelyd i’r Fatican.

Dywedodd y Fatican ddydd Gwener fod cyflwr y Pab yn gwella, ond dywedodd un swyddog efallai y byddai yn cael trafferth siarad yn dilyn ei ddefnydd hir o therapi ocsigen gyda llif uchel.

"Mae'r pab yn gwneud yn dda iawn,” meddai, “ond mae llif uchel o ocsigen yn sychu popeth.”

“Mae angen iddo ailddysgu sut i siarad, ond mae ei gyflwr corfforol cyffredinol fel yr oedd o'r blaen," meddai Cardinal Victor Fernandez ddydd Gwener.

Mae'r Pab Ffransis wedi treulio bron i 12 mlynedd fel arweinydd yr Eglwys Gatholig Rufeinig.

Mae wedi dioddef nifer o broblemau iechyd trwy gydol ei oes, gan gynnwys cael tynnu rhan o un o'i ysgyfaint yn 21 oed, sy’n ei wneud yn fwy tueddol o ddioddef yn sgil heintiau ar ei frest.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.