Eluned Morgan ‘heb gael ateb’ i bryderon am newidiadau i’r system budd-dal
Eluned Morgan ‘heb gael ateb’ i bryderon am newidiadau i’r system budd-dal
Dyw Prif Weinidog Cymru heb gael ateb eto gan Lywodraeth y DU ar ôl cysylltu i ofyn a oedden nhw wedi gwneud asesiad o effaith eu newidiadau i fudd-daliadau ar Gymru, meddai.
Yn y Senedd ddydd Mawrth dywedodd Eluned Morgan ei bod hi wedi cysylltu â’r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Liz Kendall ar 11 Mawrth.
Ond mewn cyfweliad ar raglen Politics Wales a ddarlledwyd ddydd Sul dywedodd nad oedd hi eto wedi derbyn ymateb.
Mae Liz Kendall wedi cyhoeddi cynigion gyda’r nod o arbed £5bn o’r arian sy’n cael ei wario ar fudd-daliadau erbyn diwedd 2030.
Ond mae yna bryderon y gallai’r newidiadau olygu bod rhagor o bobl anabl yn byw mewn tlodi.
“Y ffaith yw bod yr effaith ar Gymru yn mynd i fod yn llawer mwy na gweddill y Deyrnas Unedig,” meddai Eluned Morgan ar Politics Wales.
“Mi wnes i ysgrifennu at Liz Kendall y gweinidog sy’n gyfrifol a gofyn, ydych chi wedi gwneud asesiad o’r effaith?"
Gofynodd y cyflwynydd Teleri Glyn Jones a oedd hi wedi derbyn ateb eto.
“Rydw i’n disgwyl am ateb," meddai Eluned Morgan.
Ond ychwanegodd y Prif Weinidog ei bod hi’n credu bod cynlluniau Llywodraeth y DU wedi cael eu ffrwyno o ganlyniad i bryderon Llywodraeth Cymru, sydd ill dau yn lywodraethau Llafur.
“Rwy’n cydnabod bod yna, ac yn sicr roedd llawer o bobl yn nerfus iawn ynghylch y cynigion a oedd yn dod allan, a dyna pam y cefais gyfarfod â rhif 10 i nodi rhai o’m pryderon cyn y cyhoeddiad,” meddai.
Ychwanegodd: “Hoffwn feddwl bod yr alwad ffôn honno â rhif 10 wedi gwneud gwahaniaeth mewn gwirionedd.
“Fe welon ni rywfaint o wanhau [y cynlluniau] o ganlyniad i ni nodi rhai o'r pryderon sydd gennym a rhoi gwybod iddyn nhw hefyd.”