Newyddion S4C

Santander i gau saith banc yng Nghymru

21/03/2025

Santander i gau saith banc yng Nghymru

Santander ar y stryd fawr.

Golygfa fydd yn prinhau wrth i'r gwmni gau canghennau.

95 ar draws Prydain a 7 yng Nghymru.

Bydd Caernarfon, Bae Colwyn, Treffynnon, Aberdar Aberhonddu a'r Coed Duon yn cau canghennau o fis Mehefin.

Does dim dyddiad cau'r gangen yma yng Nghaergybi ond gan mai dyma'r unig fanc sydd ar ôl yn y dref mae'r newyddion wedi achosi dipyn o siom a phryder.

"Mae 'di synnu fi. Oedd 'na gymaint o fanciau yng Nghaergybi rhyw 20 mlynedd yn ol.

"Mae lot wedi mynd."

"Mae'n sioc fawr i bawb yn enwedig i bobl fy oedran i sy'n mynd yno i ofyn am help."

"Mae'n ddrwg, gynno fi Nain hen sydd ddim yn dalld yr Internet. Dydy hi'm yn dalld online banking o gwbl, mae'n warthus."

Mae nifer o fusnesau'r dref yn bancio efo Santander a cholli'r gangen leol yn ergyd fawr iddyn nhw.

"Mae'n golled mawr i ni, 'dan ni'n gorfod trafeilio dros 50 milltir i Fangor ac yn ôl i fancio."

Fel busnes, ma' gynnoch chi arian parod.

"Oes, 'dan ni'n gorfod talu mewn yr arian parod a chael newid man. Dydyn ni'm yn gallu cael o o gwbl. Mae'n boenus."

Mae nifer yn dal i ddibynnu ar beiriannau twll yn wal i gael arian.

Wrth i'r canghennau gau mae'r peiriannau'n diflannu hefyd.

Digwydd bod yma, hwn ydy un o'r unig beiriannau sydd ddim yn codi ffi.

Yn ôl un sydd wedi ymchwilio cau banciau, mae goblygiadau ehangach, yn enwedig a'r esgid yn gwasgu i gymaint y dyddiau yma.

"'Dan ni'n gwybod bod pobl a phroblemau iechyd meddwl yn gweld hi'n anodd gwneud pethe ar-lein.

"Mae'n haws iddynt fynd mewn i'r banc i siarad efo person. Weithiau mae 'na ateb syml.

"Hefyd, efo'r Gymraeg, mae rhywun yn arfer mynd i'r banc a siarad Cymraeg a gwneud busnes yn yr iaith.

"Ydy'r un gwasanaethau'n mynd i fod ar-lein yn Gymraeg i ni?"

Santander yw'r diweddaraf mewn cyfres o fanciau i gwtogi gwasanaethau stryd fawr.

Mae'r defnydd cynyddol o fancio ar-lein yn un o'r prif resymau.

Yn ôl Santander, bydd gwasanaethau yn cael eu cyflenwi gan fancwyr cymunedol a bwriad i agor hwb bancio yma maes o law.

I gynghorydd sy'n cofio pan roedd tipyn mwy o fanciau yn y dref mae angen gwarchod gwasanaethau stryd fawr.

"Mae'r porthladd yma a chymaint yn mynd a dod ac isio newid pres. Dim ond y post office sydd gynnon ni rwan."

Bydd hwb bancio yn help efallai ond gyda dim sicrwydd pryd ddaw hwnnw mae'n gyfnod anodd i Gaergybi a sawl ardal arall sy'n wynebu bod heb fanc.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.