Newyddion S4C

Prifysgol Caerdydd: Holl swyddi academaidd yn Ysgol y Gymraeg yn ddiogel

Newyddion S4C 20/03/2025
Graddio Caerdydd

Mae Newyddion S4C yn deall y bydd yr holl swyddi academaidd yn Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd yn cael eu diogelu, er gwaethaf cynlluniau i dorri cannoedd o swyddi yn y brifysgol.

Daw'r cyhoeddiad fel rhan o ddiweddariad y brifysgol i'w staff ar gynlluniau i dorri cannoedd o swyddi.

Mae Newyddion S4C hefyd yn deall bod holl swyddi yn yr adran gyfrifiadureg bellach wedi eu diogelu yn ogystal â rhyw 350 o swyddi yn yr ysgol feddygaeth.

Yn dilyn 45 cais llwyddiannus am ddiswyddiad gwirfoddol, bydd y brifysgol nawr yn ymgynghori ar dorri 355 o swyddi yn hytrach na'r 400 gyhoeddwyd yn wreiddiol ar ddiwedd mis Ionawr.

'Llygedyn o newyddion da'

Disgrifiodd yr Athro Gruffydd Aled Williams, sydd yn gyn-bennaeth ar adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth y newyddion fel "llygedyn bach o newyddion da yng nghanol môr o newyddion heb fod mor dda â hynny."

Er gwaetha'r cyfnod anodd ariannol i brifysgolion Cymru a Phrydain, mae'n croesawu diogelu adrannau Cymraeg, a'n pwysleisio eu pwysigrwydd:

"Yn sicr heb y gefnogaeth mae'r Gymraeg wedi'i chael gan yr adrannau Cymraeg yn y gwahanol brifysgolion, mi fyddai cyflwr y Gymraeg a'i diwylliant yn llawer gwaeth nag y mae hi ar hyn  o bryd."

Beirniadaeth

Ond roedd beirniadaeth heddiw eto gan undeb yr UCU wedi i Gyngor y brifysgol gadarnhau cynlluniau yr wythnos hon i ddatblygu campws yn Kazakhstan.

Dywedodd Sion Llywelyn Jones sydd yn cynrychioli'r undeb: "'Da ni'n teimlo eu bod nhw'n rhuthro fewn i hyn. Maen nhw wedi mynd amdani yn y misoedd diwethaf."

"Poeni ydan ni hefyd am drac record hawliau dynol Kazakhstan.

"Dwi'n meddwl bod digon o broblemau o fewn Caerdydd ar hyn o bryd. Dwi'm yn dallt pam bod nhw wedyn yn penderfynu trio neud pethau yn Kazakhstan? Na fyddai'n werth iddyn nhw ganolbwyntio ar Gaerdydd ar hyn  bryd a chanolbwyntio ar y problemau yna?"

Campws Kazakhstan

Dywedodd llefarydd ar ran y Brifysgol nad ydyn nhw wedi buddsoddi unrhyw arian cyfalaf yn y campws yn Kazakhstan a'u bod nhw wedi ymchwilio yn drylwyr i'r cynllun sydd yn cynnig cyfle i ehangu'n rhyngwladol.

Er eu bod nhw'n cydnabod gwahaniaethau mewn gwerthoedd, maen nhw'n hyderus y gallan nhw ddatblygu rhaglen yno sydd yn unol a'u gwerthoedd.

Dywedodd y llefarydd hefyd na fyddai datblygu campws Kazakhstan yn effeithio ar broses diswyddiadau staff Caerdydd.

Ychwanegodd nad yw'r brifysgol yn bwriadu gwario arian sylweddol ar y datblygiad tramor, ac y byddai'n cael ei ariannu gan ddatblygwyr yn y wlad.

Llun: Prifysgol Caerdydd

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.